Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| (lífaül <ftgluj5»i0- ENWOGION Y BEIBL. {Parhâd o dudal. 116.) M08E8. Moses oedd y peuaf o brophwydi yr Hen Destament; yr oedd yn uwch ua hwynt oll, ac yn fwy na'r mwyaf o honyut. Felly y dywedodd yr Arglwydd am dano pan y cenfi«enodd ei chwaer Miriam a'i frawd Aarou wrtho, ac y llefarasaut yn ei erbyn. " Os bydd prophwyd yr Arglwydd. yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, ac mewn breuddwyd y llefaraf wrtho. Nid felly fy ngwas Moses, yr hwn sydd fFyddlawn yu fy holl dy. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho ef mewn gwelediad, nid mewn dammegion," Num. xii. 6—8. Hefyd yn Ecod. xxxiii. 11 dywedir y -< llefarai yr Arglwydd wrtbo wyneb yn wyneb, fel y llefarai gwr wrth ei gyfaill." Y dull y dadguddiai Duw ei feddwl i Moses oedd wabanol i'r modd y gwnai hyny i'r prophwydi ereill; ac yn hyn gwelir ei fod yn uwch ac yn rhagori aroynt oll. Heb law ei fod yn brophwyd, yr oedd yu waredwr i Israel; efe a'u gwaredodd hwynt allan o wlad yr Aipht, o dy y caethiwed; efe a wnaeth hyny nid trwy lu ao nid trwy nerth rhyfel, nid âohleddyf ac â gwaewffon, ond trwy nerthoedd a rhyfeddodau y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef. Yr oedd gwialen Duw yn ei law, a'r wialen hòno oedd yn gwneuthur y gwaith. Ac yr oedd nid yn unig yn war- edwr ond hefyd yn ddeddfroddwr i Israel. Efe a roddodd iddynt ddeddfau a barnedigaethau, o dan y rhai y cyfan- soddwyd hwynt yn " wladwriaeth" ac yn " genedl sanct- aidd" i Dduw. 0 dan ddeddfau a barnedigaethau Moses yr Arglwydd oedd eu barnwr, eu deddfwr, a'u brenin. Esaiah xxxiii. 22. ÌM—Mehefin, 1882.