Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i <$gfaül Ŵg.Iuigaifl. ENWOGION Y BEIBL. IOSUAH. (Parhâd o dudal. 87.) Iosüah a ddarostyngodd y wlad ac a'i rhanodd rhwng y llwythau, a'r Arglwydd a roddodd iddo ef ac i Israel lonyddwch oddi wrth eu gelynion o atngylch; a dyddiau lawer gwedi hyu losuah a heneiddiodd ac a aeth yn oedranus: daeth yr amser iddo i farw, ac fel ei dadau bu farw mewn ffydd; parhaodd ei hyder yn ei Dduw hyd ddiwedd ei oes. Gwedi gorphen ei yrfa safodd yn fuddugoliaethwr ar ei therfyn; machludodd ei haul heb gwmwl; nid ymddangosodd cadernid ei ffydd, ei sel dros ei Dduw, a'i ofal am ei bobl yn fwy eglur ac yn fwy gogoneddus o dan unrhyw amgylchiad o'i fywyd, nac yn unrhyw gyfnod o'i oes, nag wrth ymyl y bedd ac ar lan afon dònog marwolaeth. Cyn ei farwolaeth anerchodd y bobl; gwnaeth hyny gyda'r difrifoldeb mwyaf "ger bron Duw." Yr oedd yr adeg yn bwysig; teimlai fod llwyddiaut ac aflwydd y genedl yn y fantol. Os glynent wrth yr Arglwydd, llwyddiant a'u canlynai, ac os gwrthodent Ef, aflwydd a'u goddiweddai; ac yr oedd yn awyddus am i'w eiriau diweddaf swnio yn eu clustiau hwy, wedi iddo ef fyned i ffbrdd yr holl ddaiar a chael ei gasgíu at ei bobl. Efe a'u cyffrôdd hwynt o helyntion eu hoes, ac a appeliodd atynt hwy eu hunain fel llygad-dystion o'r rhyfeddodau ag yr oedd Duw wedi wneuthur iddynt, ac o'i ffyddlondeb i'w gyfammod. "Gwelsoch," meddai, "yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r holl genedl- oedd hyn er eich mewn chwi," a thrachefn efe a ddywedodd, " Chwi a wyddoch yn eioh holl galonau, ac yn eich holí 185—Mai, 1882.