Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$8faUl Ŵgluipig, ENWOGION Y BEIBL. IOSUAH. (Parhâd o dudal. 60.) Y wlad oll a ddarostyngwyd o flaen Iosuah a meibion Israel, y fuddugoliaeth ym mrwydr Beth-horon a roddodd yn eu meddiant y parthau deheuol o'r wlad, a'r fuddugol- iaeth yu y frwydr wrth ddyfroedd Merom a osododd yu eu dwylaw y parthau gogìeddol. Ac wedi darostwng y wlad y peth nesaf oedd ei rhaDU rhwug y liwythau, ac fe wnawd hyn wrth goelbren. Dau lwyth a hauner, sef Reuben, a Gad, a hauner llwyth Manasseb, a gawsaut eu rhan o'r tir o du y dwyrain i'r Iorddonen. Moses cyn ei farwolaeth a roddodd iddynt hwy wlad Sehon brenin yr Amoriaid, a gwlad Og brenin Basan; efe a wnaeth hyn iddynt ar eu dymuuiad eu hunain ac nid trwy goelbren, ac efe a'i gwnaeth ar y telerau o'u bod hwy i fyned gyda'u brodyr dros yr Iorddonen a'u cynnorthwyo hwynt i ddarostwug y wlad ac yna i ddychwelyd i'w hetifeddiaeth. Ond yr oll o'r wlad o du y gorllewin i'r Iorddoneu, yr hon yn briodol ti elwir gwlad Canaan, a ranwyd rhwng y naw llwyth a hanner wrth goelbren. Wrth ranu y wlad yn y dull hwn yr oedd yr Arglwydd yn dangos iddynt mai ei eiddo Ef oedd y tir, a bod hawl ganddo i'w ddosbarthu fel y mynai ei Hun, ac yr oedd yn eu dysgu i ddysgwyl wrtho ac i ymddiried ynddo yn eu holl ffyrdd, ac yr oedd y goelbren hefyd yn "peri i gynhen" ac anfoddlonrwydd i "beidio yn eu plith," yr oedd pob llwyth a phob teulu ym mhob llwyth i dderbyn eu rhan o'r tir megys o law Duw, ac i fod yn foddlawn. Iwdah, Ephraim, a hanner llwyth Manasseh a gawsant eu rhan yn y tir tra yr oedd Iosuah a meibion Israel yn trigo yn y gwersyll yn Gilgal, ac fe syrthiodd i'w Ì8±—Mrill, 1882.