Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$8faiII Ŵglwpig. ENWOGION Y BEIBL. IOSUAH. {Parhâd o dudal. 32.) Syethiodd caerau Iericho o flaen arch Duw, wrth lais yr udgorn, a thrwy floedd y bobl; cymmerwyd Ai trwy waew- ffon Iosuah ; efe a'i hestynodd yn erbyn Ai, ac ni thynodd ei law yn ol nes dyfetha'r ddinas ; ond arbedwyd Gibeon ; ei thrigolion trwy gyfrwysdra a dwyllasant Iosuah a'r tywysogion; trwy dwyll llwyddasant ganddynt i wneuthur cyfammod â hwynt; ac felly arbedwyd eu by wyd, ond gwnaethpwyd hwy yn gymmynwyr coed ac yn wehynwyr dwfr i'r gynnulleidfa ac i allor yr Arglwydd ; gostyngwyd hwynt i'r gwasanaeth gwaelaf ac iselaf ym mhlith y genedl, ac yn y gwasanaeth hwn y treuliasant hwy a'u hiliogaeth holl ddyddiau eu heinioes. Pan glybu breniu Ierwsalem ennill o Iosuah Ai ac heddychu o'r Gibeoniaid ag ef, efe a'i wŷr a ofnasant yn ddirfawr, o blegid yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd breninol, ac yr oedd ei thrigolion yn wŷr cedyrn nerthol mewn rhyfel. Ac efe a anfonodd at freninoedd ereill i ofyn ganddynt i ddyfod i ymladd yn erbyn Gibeori; a phedwar brenin a ddaethant, hwynt-hwy a'u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant gydag ef a'i wŷr o flaen y ddinas i ryfela yn eu herbyn. Yna trigolion Gibeon a anfonasant at Iosuah i'r gwersyll yn Gilgal i ofyn ganddo ddyfod i'w cynnorthwyo yn erbyn y breninoedd hyn ac i'w gwaredu o'u dwylaw hwynt. A Iosuah heb oedi a esgynodd o Gilgal, efe a'r holl bobl o ryfel gydag ef, a'r holl gedyrn nerthol, a'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, "Nac ofna rhagddynt, canys yn dy law di y rhoddais 183—Mawrth, 1882.