Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fîfaUl ŵrjlujpijg. ENWOGION Y BEIBL. IOSUAH. (Parhâd o dudál. 4.) Gwedi croesi yr Iorddonen a chymmeryd Iericho ac Ai, y dygwyddiad nesaf yn hanes Iosuah oedd y cyfammod yr hwn a wnaeth efe a'r tywysogion â'r Gibeoniaid. Nid ymddengys fod brenin yn teyrnasu yn Gibeon, ond eto dywedir am dani ei bod yn ddinas fawr, "mwy nag Ai"— " fel un o'r dinasoedd breninolj" ac yr oedd ei gwŷr oll yn ddynion cedyrn. Ond er eu bod yn ddynion cedyrn mewn rhyfel, syrthiodd arswyd meibion Israel arnynt; digalonasant; toddodd eu calon, a chiliodd eu nerth oddi wrthynt; clywsaot am yr hyn a wnaethai yr Arglwydd dros feibion Israel yn yr Aipht ac wrth y Môr Coch, a'r modd y gorchfygasant Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, ac y cymmerasant Iericho ac Ai. Ac felly, yn lle cyduno â'r holl freninoedd y rhai oedd o du y gor- llewin i'r Iorddonen yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lanau y môr mawr, y rhai a ymgasglasaBt o unfryd i ymladd yn erbyn Iosuah a meibion Israel, y Gibeon- iaid a daflasant i lawr eu harfau rhyfel; gwelsant mai ofer oedd meddwl gwrthsefyll Iosuah a meibion Israel, ac anfonasant genadon atynt i'r gwersyll yn Gilgal i wneyd cyfanamod â hwynt. Gwyddent fod yr Arglwydd trwy Moses ẃedi gorchymmyn i feibion Israel i ddyfetha holl drigolion y wlad, ac i beidio gwneuthur cyfammod â hwynt, ac felly daeth y cenadon i'r gwersyll trwy gyfrwysdra. Dywedasant eu bod yn dyfod o wlad bell; cymmerasant hen sachlenau ar eu hasynod, a hen gostrelau gwin wedi eu hollti ac wedi eu rhwygo, a hen esgidiau baglog am eu 182—Chwefror, 1882.