Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ENWOGION Y BEIBL. IOSUAH. {Parhâd o dudal. 312, Rhagfyr, 1881.) Gwedi cymmeryd Iericho, Iosuah yu nesaf a gymmerodd Ai. Ni chymmerodd ef y ddwy ddinas yn yr un dull a thrwy yr un moddion; Did wrth sain udgyrn ac o flaen yr arch y syrthiodd Ai, ond trwy rym y cleddyf. Y gor- chymmyn wrth gymmeryd Iericho oedd, "Amgylchwch y ddinas," " Lleisied yr offeiriaid ag udgyrn o fìaen yr arch," " Bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel;" ond wrth gyra- meryd Ai, wedi ceryddu a darostwng y bobl am eu cam- wedd, y gorchymmyn i Iusuah oedd, " Estyn y waewffon sydd yn dy law tuag at Ai, canys yn dy law di y rhoddaf hi." Yn Iericho, yr udgyrn, a'r arch, a bloedd y bobl oeddynt yr arfau dinystr trwy y rhai y syrthiodd ei chaerau; ond yn Ai, y waewffon oedd i wneuthur y gwaith; "Canys ni thynodd Iosuah ei law yn ei hol, yr hon a estynasai efe gyda'r waewffon, nes dyfetha holl drigolion Ai." Yr oedd cymmeryd Iericho yn esampl o allu Duw, a dysgai y bobl i ymaflyd yn ei nerth ac i ymddiried ynddo; ond yr oedd cymmeryd Ai yn esampl o eiddigedd Duw, a dysgai i'r bobl na chyfrif Efe yr anwir yn gyfiawn, a'u bod i ymgynghori â Duw yn eu holl ffÿrdd, ac i ddaugos doethineb, gwyliadwriaeth, a gwroldeb yn eu holl anturiaethau. Gwelir y gwersi hyn os edrychir yn fanwl i'r hanes a roddir am y dull y cymmerwyd Ai gan Iosuah a meibion Israel. Pan yr ymosododd Iosuah ar Ai, nid ymgynghorodd yn gyntaf â "geneu yr Arglwydd;" nid ymofynodd ag Ef pa beth i'w wneuthur a pha fodd i weithredu: dilynodd ei feddwl ei hun, canlynodd ei reswm heb gyfarwyddyd oddi wrth Dduw: ei ddeall ei hun oedd 181—íonawr, 1882.