Skip to main content

Y D YS G E D#Y D D: A'R HWN YR UNWYD "YIl ANNIBYNWR." î ifin iMcíjûfc. (GàN Y PARCH. WILLIAM EVANS, ABERAERON). Parhado tudalen 310. II. Datguddiad y dyn pechod yn ei ddarostyngiad a'i gwymp. " Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a ä i gaethiwed; os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. I)yma amynedd a ffydd y saint." Mae y geiriau hyn yn gymhwysiadol at bob math o ormes a chaethiwed. Ni ddianc un gormeswr rhag ei gosb; mae yr Arglwydd, yn ngweiüyddiad ei lywodraeth at y byd, yn talu i ddyn- ion yn ol eu gweithredoedd. Mae efe yn gwylio dros bob peth, ac yn craffu ar ymddygiadau y naill ddyn at y llall—ar yr hwn a wna gam, a'r hwn y gwneir cam âg ef. Nid ydyw ef yn ddiystyr o ocheneidiau y gorthrymedig. "Os gweli dreisio y tlawd, a thrawsŵyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn, canys mae yr hwn sydd uwch na'r uwchaf yn gwylied, ac y mae un sydd uwch na hwynt." Ond at achos pobl Dduw, ac ymddygiadau eu gelynion atynt y mae cyfeiriad uniongyrchol y geiriau uchod. Bydd yr Arglwydd yn sicr o ddial ar elynion ei eglwys. "Pan ymofyno Efe am waed, Efe a'u cofìa hwynt; nid anghofìa waedd y cystuddio]." Fel yr oedd gwaed Abel, y merthyr cyntaf, yn llefain o'r ddaear yn erbyn Cain, felly yr holl waed cyfiawn a dywalltwyd ar y ddaear o'r pryd hwnw hyd yr awr hon, gofynir ef, ymofynir pwy a'i tywalltodd, a phaham. Ni ddianc y troseddwyr yn nydd dialedd Duw Hollalluog. Mae cyfrif mawr a thrwm i fod yn erbyn Babilon y Testament Newydd. Daw ei thro hithau i dderbyn ei chyfìawn daíecligaeth o law Duw cyfìawn am y drygau a wnaeth i'w saint Ef. Ond mae yr amser yn hir i'w ddys- gwyl, "Dyma amynedd a ífydd y saint;" dyma brawf ar eu hamynedd, a nerth eu ífydd. "A phan agorodd efe y bumed sel," meddai Ioan yn Llyfr y Datguddiad, "mi a welais dan yr allor eneidiau y rhai a ladd- esid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt. A hwy a lef- asant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd santaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear? A gynau gwynion a roed i bob un o honynt, a dy- wedwyd wrthynt am iddynt orphwys eto ychydig amser hyd oni chyf- lawnid rhif eu cydweision a'u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd megys ag y cawsent hwythau." Ar agoriad y sel nesaf, cafodd Ioan olwg ar farnau ofnadwy yr Arglwydd ar y rhai a dywalltasant waed ei saint: "Ac mi a edrychais, pan agorodd efe y chweched sel, ac wele bu daear- Taohwedd, 1879. Y