Skip to main content

Y DYSGEDYDD: A'E nWN YE UflWYD "YR AN2ÍIBYNWE." +«•«♦ YSGRIF VII. (GAN tanymaeian). Nid poblogrwydd ddylaì fod yn safon teilyngdod. Po fwyaf y dalent, lleiaf y canmol, ac yn ol mawredd a gwreiddioldeb athrylith un y mae yn fynych yn guddiedig. "Y mae un yn sefyll yn eich plith, yr hwn nid adwaenoch chwi," ydoedd tystiolaeth Ioan am y mwyaf ei urddas a'i athrylith welodd y byd erioed. Ychydig sydd yn alluog i adnabod neb, ond eu tebyg; mae y lleill allan o'u cyrhaedd, ac yn perthyn i fyd na wyddant hwy, druain, ddim am dano^ Gorfu i rai nad oedd y byd yn deilwng o honynt, "grwydro yn ddiddym, yn gys- tuddiol, yn ddrwg eu cyflwr." Y cerddor mwyaf gynyrchodd Lloegr erioed, hyd y diweddar "Syr W. Sterndale Bennett," ýdoedd Purcell, eithr yr oedd canwyr baledi ei oes yn llawer mwy poblog. Pan oedd Mozart yn rhoddi y deyrn- wialen i fyny, y dechreuodd ei oes ei gydnabod fel un yn haeddu "gogoniant brenhinol;" a dyna Handel, pyramid y gân, bu ei oes faith yn oes o frwydro caled âg anhawsderau a methiant, ac yn erbyn cen- figen ac anífodion, fel y bu agos iddo ddyrysu yn ei synwyrau, a disgyn i'r bedd yn anamserol. Ychydig feddylir yn awr gan y miloedd a fwynhant ei gyfansoddiadau penigamp, a'i Oratorios gorchestol, am yr anghyfìawnder, yr esgeulusdra, a'r elyniaeth a ymgyngreiriasant i peisio Uethu ei athrylith Samsonaidd, tra yr oedd Bononcini, Padre, Attilis, Senesino a Porpora—ei gydornestwyr, y rhai mae eu henwau a'u gweithiau wedi myned i ebergofiant—yn cael f'byd da yn helaeth- wych beunydd." Yr un dynged gyfarfu â Beethoven, bu fyw yn nghanol tlodi a helbulon, pryderon, ac allan o gyrhaedd cymdeithas, a phan oedd yr ychydig yn dechreu ei weled a'i edmygu, cymerwyd ef ymaith, eithr aeth ymaith a machludodd, fel yr haul ar ol dydd dryc- hinog ac ystormus, gan argraífu ar y mynyddoedd uchel, gyda llythyr- enau aur, brophwydoliaeth ddigamsyniol o dranoeth teg a dysglaer. Gan ddarfod i mi awgrymu eilwaith ac eilwaith, nad oedd yn cael ei gydnabod na'i adnabod gan ei oes, teg yw mynegu hefyd y gellid cael rhai rhesymau i esgusodi hyny, hyd yn nod yn Beethoven ei hun. Anmhosibl ydoedd i efrydwyr y celfau cain ,cgael digon i gadw enaid a chorff wrth eu gìlydd," heb son am ddyfod i sylw, ond trwy nawdd- ogaeth y pendefigion a'r tywysogion, a thuag at enill hyny rheidiol ydoedd aberthu cryn lawer o annibyniaeth, ac nid ydoedd un rhithyn, Medi, 1879. ^ S