Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." ♦ »•■♦ (GAN y parch. j. a. roberts, b.d., caernarfon). Dibyna ein hatebiad i'r cwestiwn hwn ar y darnodiad a roddir o natur y berthynas a fodola rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Hònir gan rai fod yr Eglwys yn meddu bodolaeth hollol wahanol ac*annibynol? ac nad oes un math o berthynas angenrheidiol yn bod rhyngddi â'r Wladwriaeth; y mae natur, cyfansoddiad, a pherthynas Eglwys Loegr â'r Eglwys gyffredinol yn ei gwneud yn berífaith annibynol. Nî sef- ydlwyd hi erioed gan gyfraith wladol, ac ni waddolwyd hi gan y Wlad- wriaeth; y mae profì hyny yn anmhosibl; nid yw y gyfraith ar gael trwy yr hon yr unwyd hi â'r Wladwriaeth. Gwir iddi dderbyn y pen- adur gwladol i fod yn ben arni, ond nid oedd hyny yn ei gwneud yn Eglwys y Wladwriaeth, mwy nag y buasai gwaith unrfcyw enwad cref- yddol yn apelio at y Öoùrt of Chancery yn ei wneud yn gorfforaeth cyfreithiol. Y mae son am ddadgysylltu yr Eglwys yn fíblineb hollol, oblegid ni chysylltwyd hi erioed â'r Wladwriaeth. Ond y mae dosbarth arall o ysgrifenwyr yn dadleu fod yr Eglwys a'r Wladwriaeth yn un, ac nid ydynt yn petruso seilio ei hawdurdod ar y ffaith hon, ni fu erioed yn bodoli ar wahan i'r Wladwriaeth; adeil- adwyd hi yn ol terfynau y Wladwriaeth. Yr oedd y brenin yn mysg ei dychweledigion cyntaf, eisteddai ei hesgobion yn y cynghorau cen- edlaethol. Y màe wedi ei himpio i'r Wladwriaeth, gyda'r hon y mae yn un. Y brenin ydoedd ei phrif lywodraethydd, am mai efe ydoedd prif lywodraethydd y genedl. Dywed Mr. Harwood, yn ei waith ar y dadgysylltiad, fod awdurdod uwchraddol yr Eglwys yn gorphwys yn y Wladwriaeth, a'i bod yn cael ei chyfrif yr Eglwys o herwydd hyny, ac nid am ei bod yn meddu bodolaeth fel corfí' crefyddol. Gall y Gym- anfa Eglwysig gael ei dinystrio, a'r esgobion gael eu difodi, a'r holl beirianwaith o ddysgyblaeth gael ei gyfnewid, ond bydd iddi barhau i fod yn Eglwys Loegr tra y bydd ei threfniant o dan reolaeth y gallu gwladol, a pheidia a bod felly y foment y symudir hi oddiwrth y cyf- ryw reolaeth. Yn gyson â hyn y mae yr awdwr hwn yn esbonio yv holl gyfnewidiadau sydd wedi bod, ac a ddichon fod eto yn yr Eglwys. Y mae yn bosibl i'w duwinyddiaeth newid, ac i'w defodau gymeryd ffurf wahanol, heb gyífwrdd â hi fel yr Eglwys genedlaethol, oblegid nid ar ei hathrawiaeth nac ar ei defodau y mae ei bodolaeth yn dibymi, ond ar ei pherthynas a'r Wladwriaeth; hyn, a hyn yn unig, sydd yn ei chyfansoddi yn Eglwys y genedl. Dyma y golygiad a gymer f)r. GORPHENAF, 1879. 0