Skip to main content

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." ■♦'»'♦ gl^nbòib a jjafoíiau JLdabau tëgítogsrg. (GAN Y PARCH. B. DAVIES, TREORCl). Weth ryddid aelod cymdeithas y golygir yr hyn a ganiateir iddo gan y gymdeitlias y mae yn aelod o boni; ac wrth ei hawl y golygir yr hyn a all efe ei ofyn oddiwrth gymdeithas mewn canlyniad i'w ffyddlondeb i amodau ei aelodaeth. Y mae yr eglwys yn sefydliad dwyfol, ac y mae pob aelod o honi yn proffesu ei hun yn ddysgybl i Grist, ac yn ei gydnabod ef y ffynonell uwchaf o awdurdod; ac felly, y mae bywyd y cyfryw yn troi o fewn cylch y rheolau a roddodd Crist i'w eglwys. Felly, yr hyn a ganiateir gan Grist yw rhyddid yr eglwys. Dichon y bydd yr hyn a ganiateir mewn ffurf o reol yn cynwys bygythiad, neu orchymyn yn cynwys addewid neu awgrymiad o egwyddor, gan apelio at y bywyd ysbrydol, yr hwn, mewn sefyllfa uwch o ddadblygiad, a fydd yn rhy uchel i deimlo dylanwad addewid na bygythiad fel y cy- mhellion cryfaf i rinwedd a santeiddrwydd. Gwir ry ddid gwladol yw yr hyn a ganiateir gan lywodraeth yn gyson â iawnderau y cyffredin. Ehyddid plentyn yw yr hyn a ganiateir gan ei rieni yn gyson â han- fodion ei natur a'i gynydd. Y mae rhyddid dyn fel deiliad o lywodr- aeth foesol yn codi o wirionedd. Yr ydym o dan rwymedigaeth foes- ol, ac felly, y mae perthynas rhwng ein bywyd a'n gweithredoedd â gorsedd. Y mae y rhwymedigaeth uwchaf yn cynwys y gwir ryddid eangaf, a'r rhyddid hwnw yn cynwys y rheolau manylaf. Hoff-enw yr apostol ar yr efengyl yw "rhyddid:" "Sefwch gan hyny yn y rhyddid." Pa fath ryddid? "Perffaith gyfraith rhyddid." Y mae yn rhyddid, ond rhyddid cyfraith ydyw. Rhyddid yn caethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist. Rhyddid mewn cyfraith, cyfraith yn caethiwo, yn caethiwo i ufudd-dod, yr hwn yw y ffurf uwchaf o wir ryddid. Rhaid edrych felly ar aelod eglwysig nid yn unig fel deiliad o lywodraeth foesol, eithr fel aelod o gorff dirgeledig y Gwaredwr, yn ddysgybl o Grist, ac yn gredadyn yn Nghrist, a'r berthynas neillduol yma sydd yn rhoddi i lawr derfynau gwir ryddid a hawl pob aelod eglwysig. Y mae pob aelod eglwysig, yn ol ei broffes, yn cyfuno dwy nodwedd neillduol ynddo ei hun—y dysgybl a'r credadyn. Fel dysgybl y derbynia y gwirioneddau, ond fel credadyn yr ymorphwysa ar y gwir- ioneddau hyny fel tystiolaethau dwyfol. Fel dysgybl derbynia oddi- wrth Grist, ond fel credadyn cyflwyna i Grist; eto, fe dodda y ddwy nodwedd hyn i un cymeriad, sef Cristion, yn yr hwn y cyfyd mewn tebygolrwydd i Grist mewn cymeriad a lywyd. Y mae y lünellau hyn Mai, 1879^ K