Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'b hwn yr tjnwyd "yr annibynwr." ■+—+- (GA.N Y PARCH. J. A. ROBERTS, B.D., CAERNARFON). Ntd gwaitli cwbl bruddaidd ydyw taflu golwg dros lenyddiaeth y byd paganaidd; nid llygredigaethau, a chreulonderau, ac ofergoeliaeth yn gwbl sydd yn cyfansoddi hanes y byd tuallan i derfynau Cristionog- aeth. Gwir fod yn ei hanes gyfnodau duon iawn, yn y rhai y canfyddir effeithiau llygredigaeth wedi ymddadblygu i'r graddau pellaf, a hyny hefyd mewn cysylítiad â chrefydd; yn wir, yn y cysylltiad hwn y cyf- lawnwyd y gweithredoedd mwyaf anfad gyflawnwyd erioed; ond er hyny, yr ydym yn rhwym o gydnabod mai dyma y cysylltiad yn mha un yr ymddengys y natur ddynol berffeithiaf; gellir dweyd fod gwaeth- af a goreu y natur ddynol wedi cyfarfod yn ei hanes crefyddol. Fe arnbell i fynydd ysgythrog a garw yr olwg arno, ond yn cynwys y perl- au gwerthfawrocaf, felly y mae hanes creíyddau y byd, er yn arddangos y ddynoliaeth mewn arweddion llygredig ac ofergoelus, yn cynwys llawer perl gwerthfawr o wirionedd, ac yn dwyn i'n sylw ambell i gy- meriad a ddeil gymhariaeth ffafriol â llawer o ddysgyblion proffesedig y grefydd Gristionogol. Beth bynag ydyw diffygion y crefyddau pagan- aidd, ni phetruswn ddweyd fod pagan cyson yn gymeriad llawer mwy trwyadl na llawer o broffeswyr creíydd y Testament Newydd. Na feddjdied neb ein bod yn tueddu i goleddu y syniad y dadleuir drosto gan rai, sef fod dysgeidiaeth a rhinweddau yr athrawon pagan- aidd mor berffaith, fel ag i wneud datguddiad goruwchnaturiol yn ddiangenrhaid, ond ar yr un pryd, yr ydym yn rhwym o gyfaddef, os mynwm fod yn ffyddlon i dystiolaeth hanesiaeth, fod pob ffurf o grefydd tuallan i Gristionogaeth yn cynwys llawer o wirionedd a daioni; nid " Sjple/idid sins," fel y mỳn rhai, ydoedd y pethau hyn, ond rhin- weddau sylweddol. Nid ydym yn ddiystyr o'r darluniad ofnadwy a geir o sefyllfa y cen- edloedd gan Paul yn yr Epistol at y-Ehufeiniaid; ond er mor ddu ydyw, dengys fod yn eu meddiant elfenau o wirionedd dwyfol, ac nid oes dim yn afresymol mewn credu fod llawer yn rhoi ufudd-dod llawn i'r gwir- ionedd hwnw. Y mae pregeth Paul yn Athen yn awgrymu yr un peth; tra yn condemnio eu llygredigaethau a'u hofergoeliaeth, y mae yn cydnabod nad oeddynt yn berffaith amddifad o wirionedd; yr oedd y ffaith fod yn eu mysg allor i'r "Duw nid adwaenir" yn profì nad oedd- ynt yn hoílol ddiystyr o'u perthynas â'r Anfeidrol. A phaham y rhaid i ni deimlo yn wrthwynebol i gydnabod hyny o wirionedd sydd yn y Mawrth, 1879. f