Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYD "YB. ANNIBYNWR." ■+—*+■ Jttterdjmtmtt ì Sor ÿtmint. (gan herber). "y dechreuad" yn ol genesis a gw#í)doriaeth. Pa ryfedd fod cymaint o ymosod ar hanes y cread gan Moses; onid ydyw ei gredu lel gwirionedd Duw yn gwneuthur Atheistiaeth, Pan- theistiaeth, a Defnyddiaeth, yn anmhosibl? Ac y mae coleddwyr y syniadau uchod yn barocl, ac yn brysur iawn yn y dyddiau presenol i ledaenu pob damcaniaeth, a'r hyn a gamelwir yn ffeithiau, er ceisio profi fod Moses wedi cyfeiliorni. Llyfr i ddyn fel creadur moesol yâyẃr Beibl, a hanes dechreuad pcthau yn eu perthyr,as a dyn sydd yn Genesis. Onid oes rhywbeth yn awgrym- iadol iawn yn y ffaith fod llyfr Duw yn dechreu ac yn diweddu gyda datguddiad yn yr ystyr fanylaf o'r gair? Y mae yn diweddu gyda Datguddiad Ioan y Difinydd, y mae yn dechreu gyda datguddiad Moses y Gweledydd. Datguddiad y dyfodol ydyw yr olaf, datguddiad y gorphenol ydy w y cyntaf. Datguddiad o barotoad ei gartref cyntaf ar gyfer dyn ar ei brawf, sydd gan Moses. Datguddiad o gartref tragwyddol dyn wedi myned trwy ei brawf sydd gan Ioan. Y mae y datguddiad cyntaf fel yr olaf yn aruchel a gogoneddus, yn deilwng o Dduw! Y mae y cyntaf yn hynach na gwyddoriaeth, hanesiaeth, athroniaeth, ac yn hynach na'r un bydhaniad (cosmogony) arall yn mhlith dynion. Y mae y gair bydhaniad, neu cosmogony, yn golygu dechreuad y byd, neu y greadigaeth, yn ein dwyn at yr wrthddadl gyntaf a ddygir yn erbyn yr hanes yn Genesis. Dywedir nad ydyw hanes y bydhaniad ysgrythyrol yn ddim on rhywbeth tcbyg iì# hyn a geir yn mhlith cenedloedl eraill. Ond y mae yn anmhosibl i neb ddarllen yr hanes sydd gan genedloedd eraill, megys y Phceniciaid, y Babiloniaid, a'r Hindwaid, am hanes dechreuad y byd, heb weled fod yr un ysgrythyrol yn hollol wahanol, o duedd foesol llawer uwch na'r un arall. Y mae pob bydhauiad arall, naill ai yn edrych ar Dduw a mater fel dwy egwyddor dragwyddol yn cydfodoli, neu ynte yn Pantheistaidd, yn gwneuthur y greadìgaeth a Duw yn un. Y mae pob un o honynt yn methu yn yr hyn sydd mor eglurjpn Genesisj sef, fod Duw a'i waith yn hollol ar wahan. Yr oedd Duw cyn pob peth. Yr unig fydhaniad tebyg i'r un Beiblaidd, ydyw eiddo y Persiaid gan Zoroaster; yr hwn, yn ol pob tebyg, a fu Ionawr, 1879. " a