Skip to main content

* * Y DYSGEDYDD a'r hwn yr tjnwyd "yr annibynwr." dígmnt |fctonbì>. Y mae'n bosibl fod y darllenydd wrth ganfod y penawd hwn yn barod i ddywedyd, "Cymru fu" yr wyf fì yn ei adnabod, a Chymru sydd a adwaen, eithr pwy ydych chwi, a soniwch am "G-ymru newydd?" Onid ydyw iaith cenedl y Cymry, ei hiaith gyntefig (y G-eltaeg), yn cael ei llefaru yn Mhrydain, Ffrainc, a manau erailì yn Ewrop, er's mwy o oesau nag a wyr neb cyn dyfodiad Caesar i'r ynys hon, yn agos i ddwy fil o flynyddoedd yn ol? Ac oni leferir rhai canghenau o'r hen iaith y dydd heddyw, nid yn unig yn Nghymru, ond yn yr Iwerddon, yn Llydaw, yn America, ac yn Awstralia? Ac wedi goroesi o honi gyfnewidiadau miloedd o flynyddoedd, paham bellach y sonir am "Gymru Newydd?" Am fod dylanwad gwareiddiad, addysg, gwybod- aeth, celfyddyd, gwyddoniaeth, a chrefydd, yma fel mewn rhanau eraill o'r byd, yn cyflawni dywediad y prif-fardd Seisnig:— "Riug out the old, ring in the new." Y mae'n bosibl i ni, yn ein brwdfrydedd, a'n cariad at yr hen iaith, a hen arferion ein cenedl, geisio sefyll ar y traeth â'n hysgubell yn ein liaw, er ceisio cadw allan y llanw sydd yn ymarllwys i fewn yn mhob cyfeiriad, a hyny gyda'r fath nerth, íel na fydd ein hymgais ond testun chwerthin a gwawd; gwell i ni o lawer ydyw ceisio parotoi ar ei gyfer, amcanu deall arwyddion ein hoes a'n hamser, felly y byddwn yn fen- dith i'n cydgenedl, yn garedigion i'n gwlad, ac yn arweinwyr i fewn i ddyfodol newydd, ond gwell a rhagorach, efallai, i ni, i'n cenedl, i'r byd, ac i ddyfodol dynolryw. Fel y mae'r dyn unigol yn bodoli er mwyn y genedl, y mae y genedl hefyd yn bodoli er lles yr hil ddynol. Ac y mae pob cenedl sydd a hanes iddi, wedi bod yn help i wneud dynolryw yr hyn ydyw ar y ddaear heddyw. Ac yn ddiddadl, y mae y Cymry wedi cyfoethogi yr hil, yn gyffredinol, â rhai gwersi pwysig. Y mae'r genedl sydd yn enill goruchafiaeth ar unrhyw ragfarn neu anwybodaeth, ar drais neu orthrwm, yn ei enill nid iddi ei hun yn unig, ond i'r byd am bob oes. Yr oedd rhyddhad y caethion yn Mhrydain, yr help mwyaf i'w rhyddhau yn America, ac yn mhob gwlad araíl, ac felly yn enill i ddynolry w hyd ddiwedd amser. Y mae preswylwyr "Cymru fu," wedi dyoddef dros ei hiawnderau crefyddol a pholiticaidd. Y mae ei beirdd wedi gwisgo gwirioneddau aruchel mewn gwisgoedd gwir farddonol; y mae ei phregethwyr, ei huchelwyliau crefyddol, a'i heisteddfodau cenedlaethol wedi dysgu*rhai gwersi i'r Bhaghtr, 1878. T