Skip to main content

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." +■•«» A draddodwyd yn Hen Gapel Llanbrynmair, gan yr hen John Roberts, Mehefin 1, 1802, un mlynedd ar bymtheg a thriugain yn «1, mewn «yfarfod •dioìchgarwch ar adf eriad hadd- wch i wledydd Ewrop. "O na folianent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodati i îefbion àynion," Salm cvii- 8. Byrdwn ydyw yr adnod o heu Salm o ddiolcfegarwch ag ydoedd per- aidd ganiedydd Israel wedi gyfansoddi er cymhell a chyfarwyddo ei gyd-ddynion i folianu yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i feibion dynion. Yr ydym yn cael adnoà ein testun bedair gwaith yn yr un Salm. Os bydd i ninau adolygu yn ystyriol yr helyntion a gy- merodd le er dechreuad y rhyfel mawr diweddar, cawn weled, a dylem deimlo fod ein rhwymau yn bwysfawr i "folianu yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynìon." 1. Un achos cysurlawn sydd genym i'w folianu ydyw, fod nifer mor fawr o'n cyd-ddynion wedi cael eu rhyddhau oddiwrth iau drom caethwasanaeth a gormes. Nì raid i mi dreulio amser i egluro gor- thrymderau trymion Llywodraeth Ffrainc yn flaenorol i'r chwyldroad diweddar. 2. Y mae genym hefyd achos i folianu yr Arglwydd am ei ddaioni, am fod gormes a llygredigaethau Pabyddiaeth wedi cael y fath glwyfau yn Ffrainc yn ddiweddar. Er fod yno eto grefydd sefydledig, y mae genym sail i obeithio na bydd iddi byth adenill ei rhwysg a'i gormes blaenoroL 3. Dylem hefyd folianu yr Arglwydd mewn ysbryd diolchgar, am fod cynliuniau annheg cyngrair gormes galluoedd Ewrop, er nychu ac andwyo Ffrainc, wedi cael eu hatal. Yr amcan oedd adsefydlu gormeá a difrod yr hen freninoedd yno; a phe buasent yn gallu llwyddo, y mae lle i'ofni y buasai rhyddid yncael ei ymlid ymaith o wledydd Ewrop. 4. Dylem folianu yr Arglwydd am ei ddaioni, am na chafodd ein gwlad ni ddim ei gwneud yn faes rhyfel—na chawsom ni ddim gweled y galanasdra, na bod yn nghanol y dychrynfeydd—dim ond clywed oddidraw am yr erchyllderau. 5. Dylem folianu yr Arglwydd am iddo, yn y diwedd, adferu hedd- wch i'r cenedloedd cynhyrfus a dialgar, a hyny ar adeg pan nad allesid prin ei ddysgwyl, ac mewn dull ac ar amodau llawer gwell liag oeddid yn ofni. Hydref, 1878. t