Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Jitfrttlriatffr fMJmbttríaib. CASGLIADAU ODDIWRTH 2 TIM. i. 9. I. Mae y geiriau hyn yn gosod allan mai Duw ei hunan yw y prìf weithredydd yn y cyfnewidiad mawr a phwysig hwn. Md dywedyd y mae yr apostol nad oes gan ddyn ddim i'w wneud yn y mater (pell iawn oddiwrth hyny), oblegid y mae gandddo lawer i'w wneuthur, ac nid oes neb a'i gwna, nac a ddichon ei wneuthur, ond efe ei hunan: "Hyn yw gwaith Duw; credu o honoch yn yr hwn a anfonodd efe." "Grweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain, trwy ofn a dychryn." Mae pethau yn sefyll yn y mater hwn yn gyffelyb i'r modd y safant mewn pethau naturiol a chyífredin. Grwaith yr am- aethwr ydyw arloesi, dyfrffosi, aredig, gwrteithio, hau, llyfnu, ac am- ddiffyn ei faes; rhaid iddo ef ei hun wneuthur y pethau hyn, a phe byddent byth heb eu cyflawni, ni welai efe byth mo'r Arglwydd yn eu gwneuthur drosto. Ond y mae gan y Goruchaf, yntau, waith mewn codi cnydau o'r ddaear na ddichon neb ei wneud ond efe. Efe sydd " yn peri i'w haul godi ar y drwg ac ar y da, ac yn gwlawio ar y cyf- iawn a'r anghyfiawn." Oddiwrtho ef y mae y tyner wlith, a'r awelon llawn o fywyd, yn dyfod. Ei law ef sydd wrth wraidd pob yden, yn peri iddi ymestyn, a thyfu i'w chyflawn faintioli, fel y gellir dywedyd yn eofn mai efe yw y prif weithredydd mewn dwyn bara allan o'r ddaear, er fod gan yr amaethwr lawer i'w wneuthur fel cydweithredydd âg ef, mewn peri i'r ddaear ddwyn cnydau. Wedi y cyfan, nid yw yr hwn sydd yn planu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau ddim, mewn cymhar- iaeth i'r hwn sydd yn rhoddi y cynydd. Gwaith dyn ydyw edifarhau am ei bechodau, a chredu tystiolaeth Duw am ei Fab, a byw yn sobr, ac yn gyfìawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awr hon. Nid oes neb a all wneud y pethau hyn ond y pechadur ei hunan. Ehaid iddo ef eu gwneuthur, neu bydd yn adyn colledig dros byth, ond caiff bob help gan y Goruchaf i hyny. Telly y mae dyn yn gydweithydd â Duw yn ei iachawdwriaeth; ond Duw ei hunan yw y prif weithred- ydd yn y mater. Mae Paul yn arfer hyder cryf, a hyfder mawr yma. Nid dywedyd y mae ei fod yn gobeithio ei fod ef a Timotheus wedi eu hachub; ond Awst, 1878. p