Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r iiwn yr unwyd "yr annibynwr." • tfoíhooiton €vmni#t fím a Jifcocbbar. (GAN AP VYCHA.N.) "Nes penelin nag arddwrn," medd hen air tra adnabyddus yn mhlith ein cydwladwyr; felly hefyd, nes yw yr ardal lle y ganwyd ac y mag- wyd ef at feddwl a serch ysgrifenydd y llinellau hyn nag un ardal arall o fewn Cymru benbaladr; a naturiol yw iddo, yn gyntaf oll, ysgrifenu ychydig o gofnodion am ardaloedd ei fro gysefin. Mae llawer o hynodion ac amrywion yn perthyn i'r rhandir a elwir Penllyn. Yn ei chanol y mae y llyn mawr, môr canoldir Meirion, yr hwn, weithiau, a wisga wên hawddgar- a deniadol iawn, ond sydd heddyw yn noethi ei ddanedd, ac yn rhuo megys bwystfil ysglyfaethus, fel pe byddai am falu a llyncu pob peth sydd yn agos i'w derfynau; ond er ei fawredd a'i rwysg, mae yn rhy fychan i foddloni ei ddyfroedd, ant allan o hono i chwilio am gartref mwy cydnaws â'u naturiaeth yn rnynwes y môr ; rhy wbeth yn debyg i ysbryd anfarwol dyn, yr hwn nis gall ymgartrefu ond am dymor byr yn unlle, nes y cyrhaeddo fynwes y Duw a'i gwnaeth. Mae yn y llyn doraeth mawr o amrywiol bysg, ac felly y mae yn yr afonydd a ymarllwysant iddo. Dywedwyd yn fynych fod y brif afon sydd yn ymdywallt iddo yn rhedeg trwyddo heb ymgymysgu â'i ddyfroedd, ond nid yw hyny ddim ond un o freudd- wydion y trigolion gynt, pan oedd nos anwybodaeth yn gordoi y wìad. Mae yn Mhenllyn lwyni prydferth o amryw goedydd, dolydd breis- ion, porfaoedd meillionog, eithinoedd llymion, ucheldiroedd corsiog, marwddyfroedd cysglyd, rhaiadrau trochionog, brysiog, a thrystiog, mawnogydd dyfnion, gwastadeddau grugog, rhosydd grugwelltog, a llechweddau caregog a diffrwyth, lawer iawn. Mae rhanau uchaf y rhandir yn nodedig o fynyddog. Mae y creigiau daneddog, ysgythr- og, yn lluosog iawn; ar y rhai y mae mellt, gwlawogydd, eiraoedd, rhewogydd, a gwres, wedi bod yn diwyd weithio, nes datod rhanau dirif o honynt, nes y mae y rhanau hyny megys plant o amgylch traed eu rhiaint, ac yn gwireddu y ddiareb, "Odid fab cystal a'i dad." Yn ^ysg y ceryg hynotaf yn yr ardal, y mae "careg y lluniau," ar yr hon y ceir Uuniau o amryw ffurfiau, a rhai o honynt yn dwyn llawer o Mawrth, l«78. x