Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. RHAGFYR, 1847 COFIANT Y PAECH, JOHN GRIFFITHS, LLANARMON YN IAL. GANWYDamagwyd yParch. J. Griffiths yn ardal Trelech, swydd Gaerfyrddin, a derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Anni- bynol yno—yr hon oedd y pryd hwnw dan "ofal gweinidogaethol yr bybarch Morgan Jones. Bu yn derbyn addysg at y weinidogaeth yn Nghaerfyrddin, dan ofal y diweddar Barch. D. Peter. Tua'r flwyddyn 1818 ymsefydlodd yn Llandegla, swydd Ddin- bych, fel gweinidog yn y Ile. Wedi ymsefydlu o hono yn y Ile uchod, arfer- ai bregethu mewn amrywiol fanau ar hyd yr ardaloedd; ac mewn amser, adeiladwyd addoldy yn Llanarmon, ac wedi hyny yn y Blaenau, ac wedi hyny yn y Graianrhyd. Bu yn gwasanaethu yn yr holl fanau ucbod yn nghyd dros yspaid o amser; ond tua'r flwyddyn 1840, Llanarmon, Blaenau, a'r Graian- rhyd yn unig oedd tan ei ofal gweinidog- aethol, pryd y cymerai y Parch. Samuel Evans yr eglwyä yn Llandegla dan ei ofal. Bu yn ddiwyd ac ymdrechgar, a hyny yn wyneb graddau helaeth oddigalondid lawer tro, yn llafurio yn y manau uchod, ac ni chafodd ei lafur chwaith ei adael heb fendith arno i fod er Hes. Yn ystod ei flynyddoedd diweddaf yr oedd ei iechyd a'i nerth yn dra adfeiliedig; a bu dros y tri mis ar ddeg diweddaf o'i fywyd yn glöedig hollol gan ei waeledd, heb allu gadael ei ystafell, a than y poenau corfforol mwyaf gofldus. Dan y poenau llymdosthyn, dangosai amynedd, tawelwch, a goddefgarwch neillduol, er ei fod, oddiar wybodaeth drwyadl o natur ei glefyd, (yn nghyda'i wybodaeth fanylaidd a chywir o natur clefydau a meddyginiaeth yn gyffredinol, yn yr hon wybodaeth yr oedd yn rhagori) yn hollol ymwybodol fod awr ei ym- ddattodiad yn ymyl. Parhaodd i waelu a gwanhau yn raddol hyd y 18 o Fehefln, 1847, pryd y gadawodd ei ysbryd y byd marwol presenol, pan ydoedd yn Uawn 70 ml. oed. Gadawodd ei weddw ar ei ol, ond ni fu ganddynt blant. Ar y 25 o'r un mis, ymgynnullodd Iluaws mawr o'i gyfeillion, yn nghydag amrai o'i frodyr yn y weinidogaeth, at eu gilydd, er hebrwng ei ran farwol i dir ei hir gartref. Claddwyd ef yn ymyl Philadelphia (capel Llanarmon yn Iâl), Ue y bu yn gweinidogaethu dros flynydd- au lawer. Ar yr achlysur galarus wrth y tŷ gweddîodd y Parch. H. Price, Wrecsham, a phregethodd y Parch. W. C. fPilliams, Caerynarfon. Wedihyny, cyn cychwyn y corff, gwedd'iodd Mr. H. Parry, (T.C.) Llanarmon. Ar hyd y ffordd o'r tŷ at y gladdfa, yn ol dymun- iad y trengedig, canai y cantorion medrus perthynol i'r lle emynau a thonau priodol hynod i'r amgylchiad. Wedi cyrhaedd yr addoldy gweddiodd y Parch. O. Owens, Rhesycae, ac areithlodd y Parchn. W. Lloyd, Wern; T. B. Morris, Rhos; a Mr. D. Hughes, Waeddgrug. Ar lan y bedd anerchai ysgrifenydd y llinellau hyn, a'r Parch. J. Lloyd, Aber- gele, y gynnulleidfa alarus a safai ger bron, a therfynwyd trwy weddi. Wedi i'r gwasanaeth fyned drosodd, araf ym- symudai y dorf ymaith, gan adael gweddillion y marw yn eu tawel wely pridd, hyd ganiad yr udgorn yn y dydd diweddaf. Wrth golli y Parch. J. Griffiths o Lanarmon a'i chymydogaetbau, teimlir am dano gyda chwithdod galarus, gan gylch eang o gydnabyddiaeth, nid* yn unig fel gweinidog yr efengyl, ond hefyd fel cymydog a gwladwr—yn neillduol fel un tra cbyfarwydd a llwyddiannus mewn meddyginiaeth a gwella clefydau. Yr oedd ei barch a'i gymeriad yn uchel iawn yn mhlith pob gradd. Penuel, Hope. J. Dayies.