Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD, TACHWEDD, 18 47 COFIANT Y DIWEDDAR EDWARD AMOS, PISGAH, PENYPYLLAU, GER TREFFYNNON, SWYDD FFLINT, Oni b'ai y canhwyllau sydd yn llosgi ar y ddaear, byddai yn dywyll fel yfagddu, oblegid aeth yn nos ddu ar ein byd ni trwy ddyfodiad pechod iddo. Y can- hwyllau sydd y goleuo y byd ydyw saint y Goruchaf—felly y dywedodd y Gwar- edwr mawr am un o'r enwogion duwiol, "Efeydoedd ganwyll yn llosgi." Mae yr holl saint ar y ddaear yn ganhwyllau yn llosgi ac yn goleuo, ond fod rhai o honynt yn llawer iawn mwy nag eraill, ac yn llosgi yn llawer mwy dysglaer nag eraill, ac felly yn rhoddi mwy o oleuni i'r byd nag eraill. Galarus ydyw meddwl roai canhwyllau bach gwan eu goleuni ydyw llawer iawn o bobl Dduw ar y ddaear, a dyma ydyw yr achos nabuasai yr holl fyd wedi ei oleuo â goleuni y rhai byw cyn hyn. O na byddai pob Cristion yn ymgais am fod yn ganwyll fwy dysglaer a goleu! Am wrthddrych y Cofiant hwn, yntau hefyd oedd " ganwyll yn Uosgi," a gẃyr pawb a'i hadwaenai mai clhwyll ddys- glaer nodedig ydoedd. Teimlir colled fawr am symuûiad y ganwyll hon oddiar fwrdd amser, ac ofnir yn fawr y bydd eglwys ac ardal Pisgah yn hir cyn cael canwyll etto a oleua mor danbaid. Edward Amos ydoedd fab i Thomas a Sarah Amos, gynt o'r Dolphin, plwyf Helygain, swydd Fflint. Treuliodd y rhan flaenaf o'i oes, fel llawer, heb ddim yn neillduol yn galw am sylw. Ond pan yn 21 oed, ymwelodd yr Ar- glwydd ag ef trwy ei ras. Ymwasgodd ■â'r dysgyblion, a derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys oedd y pryd hwnw dan ofal y diweddar Barchedig David Jones, Tre- ffynnon, a gwybu Mr. Jones na chafodd y fraint o roddi deheulaw cymdeithas yn ei oes i neb cywirach a ffyddlonach nag ef. Perchid ef yn fawr gan y gweinidog enwog hwnw tra y bu byw. Golchwr plwm oedd ein brawd ymadawedjg wrth ei orchwyl. Byddai yn cadw dynion o dano, ac felly yn gwneud bywioliaeth gysurus. Cafodd ei boeni am lawer iawn o flynyddau gan ddiffyg anadl. Yr oedd o ysbryd bywiog yn naturiol, ac yn \vr gofalus am ei orchwyl. Gallesid meddwl ambell dro wrth ei weled yn ymdrechu am ei anadl, nas gallasai fyw ond ychydig iawn o amser; ond wedi i'r ystorm fyned drosodd, byddai mor fywiog fel pe na buasai dim dolur, poen, na gofid, wedi cyffwrdd ag ef erioed. Ond trwy fod ymweliadau y cystudd poenus hwnw yn lled aml, ac am flynyddau, effeithiodd ar ei gyfansoddiad, a hawdd oedd canfod er's rhai blynyddoedd ei fod yn gwanhau. Yn y diwedd aeth i chwyddo, a thueddai i fod yn ddyfr- glwyfus. Anhwylusodd y corff drwyddo, ac er pob ymdrech a moddion meddygol, tynwyd y babell bridd i lawr gan angeu, a'r ysbryd anfarwol a ehedodd ymaith at yr hwn a'i rhoes; a diammau, oni buasai y gofal digyffelyb bron a gymer- odd ei anwyl briod am dano, trwy golli ei chwsg ugeiniau lawer o nosweithiau er ei ymgeleddu, y buasai wedi marw yn llawer cynt. Gellir yn briodol iawn ddyẃedyd am dani hi yn ei pherthynas ag ef, "Yrhyn a allodd hon, bi a'i gwnaeth." Yr oedd wedi bod yn hynod glaf ychydig cyn ei farwolaeth, ond gobeithid ei fod yn gwellhau, ac y cawsid ei gwmpeini ar dir y byw ychydig yn hwy, ond yr oedd yr ystorm olaf wedi ei chefnu, a'i gwch wedi cyrhaedd y làn draw yn gynt nag y meddyliwyd; felly boreu Mercher y 28 o Gorphenaf diwedd- af, ymadawodd ei ysbryd mewn tangnef- edd o'r tŷ o glai, hyd foreu mawr yr adgyfodiad, yn 50 mlwydd oed, a gadaw- odd weddw, mab, a merch i alaru ar ei ol. Y dydd Sadwrn canlynol, ymgyn-