Skip to main content

Y DYSGEDYDD. HYDEEF, 1847 COFIAOT ME, THOMAS WILLIAMS, EHESYCAE, Mae enw Rhesycae yn bur adnabyddus yn y dywysogaeth. Mae ei mwnglodd- iau a'i chyfoeth tanddaearol wedi ei gwneud felly yn mhlith trafnidwyr y wlad; a gwnaeth crefydd, ac enwog- rwydd ei gweinidogion hi felly i Grist- ionogion a chrefyddwyr, yn enwedig yn mhlith yr Annibynwyr. Cofir gan lawer- oedd gyda'r fath hyfrydwch y swniai enw y Parch. D. Davies, Rhesycae, yn eu clustiau er's llawer o flynyddoedd bellach, ac mor dda fyddai gan dyrfa- oedd ei weled yn ein cymanfaoedd a'n cyfarfodydd. Wedi ei ymadawiad ef i Aberteifi, nid hir y buwyd heb seren ddysglaer arall, sef y Parch. R. Williams, yr hwn a fawr berchid gan yr holl eglwysi. Wedi ei golli yntau o'i ffurfafen drachefn, parha enw Rhesycae yn dra adnabyddus yn ei gysylltiad ag enw ei *gweinidog presenol, sef y Parch. O. Owens, yr hwn sydd wedi bod yn llafur- io yno bellach er's chwech ar hugain o flynyddoedd; ac y mae ei enw mor adnabyddus ac mor barchus fel pregethwr ac ysgrifenwr; a diau fod ei lafur diflin, a'i fywyd teilwng o'i swydd, am yr ysbaid hirfaith a nodwyd, yn ennill iddo air da gan bawb a'i hadwaenant. Gwnaeth gwrthddrych ein Cofiant presenol Rhesycae yn air cynnefin iawn i dafodau a chlustiau miloedd o bob dosparth, yn enwedig y beirdd a'r peror- iaethwyr, braidd yn mysg pob enwad crefyddol yn y wlad. A diammau y gall yr ardal hon, yn nghyda'r Eglwys Anni- bynol ynddi, ymffrostio yn eu gwron, fel un cysylltiedig â'u henwau, a hwytbau yn gysylltiedig â'i enw yntau. Dylai fod mewn Cofiant argraffedig wir deilyngdod yn ei wrthddrych, o rin- wedd,defnyddioldeb,achyhoeddusrwydd teilwng o efelychiad; a diau mai sarhad ar ddarllenwyr y gwahanol gyhoedd- iadau misol lawer gwaith fu cyhoeddi Cofiant o bersonau, na wyddai neb bron, allan o'r gymydogaeth eu ganwyd, ddim am danynt, ac na chyflawnasant trwy eu hoes ddim yn werth ei gyhoeddi tu allan i'r gymydogaeth y buont fyw a marw ynddi. Nid un felly oedd T. Williams. Bydd yr ychydig grybwyllion canlynol yn ddigon er dangos i'n darllen- wyr ei fod yn deilwng o gael cof-golofn, nid yn unig ar ei fedd, ond hefyd yn nheml y Dysgedydd; a diau ei fod ef wedi ei wneud yn gof-golofn yn nheml ei Dduw. Yr oedd efe yn un o gedyrn Israel. Ty wynai rhagoriaethau y grefydd Gristionogol mor nerthol yn ei holl fywyd, fel y gellid dweyd am dano, ei fod yn ei ganmol ei hunan wrth bob cydwybod dynion yn ngolwg Duw. Llanwodd gylch, neu yn hytrach gylch- oedd pwysig yn yr eglwysi a'r cynnull- eidfaoedd yr oedd yn dal perthynas â hwy am lawer o flynyddoedd. Ei golli sydd golled a deimlir yn hir yn y manau y bu mor ddefnyddiol. Yr oedd yn ddyn i'w oes. Nid oedd i'w restru, mae'n wir, yn mhlith y rhai a ddeuant i'r byd cyn y bydd y byd yn barod i'w derbyn; ac nid oedd ar y Ilaw arall megys ar ol ei oes. Meddai ar alluoedd a doniau gwerthfawr, ac aberthodd hwy yn hollol ar allor defnyddioldeb, er gogoniant i Dduw a llwyddiant crefydd yn y byd. Gan mai â'i nodwedd fel Cristion ffyddlon, pregethwr defnyddiol, a bardd rhagorol, y mae a fynom yn benaf yn y llinellau hyn, ni roddwn ond byr gry- bwyllion am dano yn ei bethau a'i amgylchiadau cyffredin. Cafodd well manteision yn ei ddygiad i fyny na llawer o'i gyfoedion, trwy fod ei rieni, sef Thomas ac Anne Williams, yn rhai pur ddefosiynol, ac yn fawr eu hymlyniad wrth y Llan. Felly yr oeddynt yn ofalus iawn am ddwyn eu plant i fyny mewn moesoldeb, geirwiredd, a gonestrwydd» Yr oeddynt yn preswylio raewn tŷ o'r 3 H