Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. M E D1, 18 4 7, DARLUNIAD O GREFYDD. GAN WEINIDOC YR EFENGYL YN AMERICA. Yn ystod ei lafur gweinidogaethol, y mae yn sylwi,— " Yr ydwyf yn cael fy nghadarnhau ar yr achlysur presenol yn y farn a ddeliais dros hir amser; sef na bu erioed, ac na fydd byth, ond un wir grefydd yn y byd; sef gwaith Ysbryd Duw yn eneidiau dynion; ac nad oes gan undyn wir grefydd ond sydd yn dyfod trwy wybod- aeth, a thrwy brofiad, a weithredir yn unig gan Ysbryd Duw. Hwn sydd yn dechreu ac yn dwyn yn mlaen y gwaith —hwn, trwy ei gynhyrfiad dwyfol ei hun yn gweithio ar feddyliau dynolryw, sydd yn datguddio " Crist ynddynt, gobaith y gogoniant," Col. 1. 27—neu yn gweith- redu ynddynt o bryd i bryd, trwy ddarllen yr ysgrytbyrau, neu lyfrau buddiol eraill —trwy wrando ar bregethiad yr efengyl —myfyrio ar waith creadigaetb, a rhag- luniaeth, a barnedigaethau Duw ar y ddaear-—ei driniaeth â hwynt eu hunain yn neillduol—neu achlysur, amgylchiad, neu un peth arall a wneir yn offeryn o argyhoeddiad a dychweliad. Y mae yr Ysbryd Glan yn gweithio drwy yr amryw- iol foddion hyn fel ag i gyrhaedd y dyben dedwydd; acheb ei weithrediad tufewnol ef, byddai yr holl foddion eraill a enwyd yn llwyr ddifudd ac ofer tuag at gyrhaedd iechydwriaetb, heb nagallu na rhinwedd ynddynt i ddangos y radd leiaf o wir grefydd, na santeiddiad yn yr enaid. Felly, er fod llawer o opiniynau, a llawer math o gredo, a phroffes, ac enw, a rhai aelodau gwir grefyddol ynddynt oll, etto nid oes, ac nis gall fod, ond «n wir grefydd. Nid yw gwir grefydd ond o un rhyw, oll yn tarddu o'r un ffynnon. Bendigedig byth a fyddo yr Arglwydd, gall pob dyn os myn, gael llesâd profiadol trwy yr unig wir grefydd hon, "Eglur- had yr Ysbryd a roddir i bob un er Uesâd," 1 Cor. 12. 7. Y sawl a ddei- bynio iawn fudd oddiwrth hyny, ac a barhao i wneuthur felly, a fydd byw mewn ymarferiad o'r "unffydd" (Eph. 4. 5.)—efe a gaiff dystiolaeth tufewnol o'r un wir fedydd Cristionogol—efe a adnebyddac aufuddha yr un Arglwydd y bywyd; a thrwy yr Ysbryd Glan, efe a'i cyfaddefa mewn gair a gweithred, ac a'i geilw yn* Arglwydd; ac felly a fydd gadwedig trwy gadwedigaeth neu iech- ydwriaeth dragwyddol. Ac o'r tu arall, gan weled fod dawn yr Ysbryd Glan yn cael ei roddi i bob dyn—gan weled fod goleuni a bywyd y gair santaidd, yr hwn yn y dechreuad oedd gyda Duw, a Duw ydoedd, wedi goleuo pob dyn a'r sydd yn dyfod i'r byd—gan weled yn mhellach fod Crist Iesu wedi profi marwolaeth dros bob dyn, Heb. 2. 9—" Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iechydwriaetb gy- maint?" Pa mor ofnadwy fydd barned- igaeth pob enaid sydd fel hyn yn byw dan gynnifer o fanteision, ac er hyny yn sefyll allan ac yn gwrthwynebu ymdrechiadau yr Ysbryd, addysgiadau gras, a llewyrch- iadau ac argyhoeddiadau y goleuni d wy fol hwn? Ond y gras hwn, y goleuni hwn, a'r Ysbryd Duw hwn, yr un peth ydynt dan amrywiol enwau. Gelwir ef gras am ei fod yn rhad, neu yn rhodd Duw i ddyn anhaeddol; gelwir ef yn oleuni am ei fod yn egluro, "Canys betli bynag sydd yn egluro, goleuni yw," Eph. 5.13; a gelwir ef yn Ysbryd am ei f'od yn fywiol, yn effeithiol, ac yn adfywio yr enaid i deimlad o'i sefyllfa a'i gyfiwr. Ac fel ag y derbynir y gras neu y goleuni hwn, y bydd iddo ddwyn yr enaid i gyflwr o gymmod a ffafr gyda Duw. Cymhwys, gan hyny, oedd i'r apostol, gyda gwresog orfoledd, lefain allan fel hyn, " I Dduw y byddo y diolch am ei ddawn annhraeth- 2 L