Skip to main content

Y DYSGEDYDD. AWST, 18 4 7 COFIANT OWEN THOMAS, CLEGYRROG, MON, Y mae parch i goffadwriaeth y marw, yn nghyda budd a llesâd y byw, yn ein rhwymo i gadw y "cyfiawn byth mewn coffadwriaeth;" ac ni adewir i enw gwrthddrych y Cofiant hwn bydru. Gan ei fod yn un ag yr oedd ei fywyd yn perarogli, y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Gellir dweyd am dano mai perarogl Crist ydoedd yneideulu—yn yr eglwys y perthynai iddi—ac yn y gy- mydogaeth y preswyliai ynddi. Yr oedd wedi hanu o deulu nid anenwog, mab ydoedd i'r diweddar Barch. O. Thomas, Carrog, a brawd i'r Parch. Thomas Owen, £benezer. Ënnillwyd ef at grefydd pan yn Iled ieuanc, er ei fod wedi bod dros flynyddau heb adnabod Duw; ond pan ddaeth at grefydd, gwelwyd yn fuan ei fod wedi ymroddi yn hollol i'r Arglwydd. Cafodd ei waith ef y lle blaenaf ar ei feddwl, a bu yn dra ffyddlawn yn nghychwyniad yr achos mawr yn mhlith yr Annibynwyr yn Cemaes. Symudodd o dan gronglwyd ei dad i fyw i'r Neuadd, Coedana, a daliodd ei grefydd i'w symud gydag ef; nid fel y mae llawer—ym- ddengys eu crefydd yn brydferth fel ornament ar y shelf, ond wrth symud, y mae eu crefydd yn myned yn deilchion : ond crefydd ar waith oedd gan ein cyfaill, nid peth i'w dangos yn unig, ond peth mewn arferiad beunyddiol. Y mae cref- ydd Hawer mor ddelicate fel y mae newid yr atr, a newid cyfeillion, a newid cy- mydogaeth yn ei newid hithau, ac yn ei dyfetha; ond nid oedd y symudiad yn effeithio dim ar ei grefydd ef. Y mae Uawer yn cofio am ei ffyddlondeb tra yn aelod yn Peniel, ger Llanerchymedd, a mynych y clywodd yr ysgrifenydd ef yn adrodd y pleser a'r adeiladaeth a dder- byniodd tra yno dan weinidogaeth y Parch. W. WiIIiams, (yn bresenol o Gaernarfon. Nid hir y bu cyn i Ragluniaeth agor drws iddo ddychwelyd i'w hen gymydog- aeth; a thua'r amser y symudodd yr ymbriododd ag un a brofodd yn ymgeledd gymhwys iddo, yn sugno ei phleserau o'r un ffynhonell ag yntau, yr hon sydd wedi ei gadael i alaru ar ol y tirionaf o ŵyr, yn nghyda phedwar o blant yn amddifaid o'r tad tyneraf. Yn fuan wedi dyfod i Glegyrrog i fyw, mỳnodd gael pregethu achlysurol yn ei dŷ, gan nad oedd yr un capel gan yr enwad y bwriasai ef ei goelbren yn eu mysg yn y gymydogaeth; a dyna fu dechreuad yr achos sydd yn Sion. Efe fel offeryn a'i sylfaenodd, ac a fu yn brif golofn i'w gynnal am flynyddau. Un o " werthfawr feibion S'ion ydoedd, a chystal ag aur pur." Yr oedd yn ddiacon cymhwys, yn gwybod ei waith, ac yn gwneud ei waith. Gall yr ysgrifenydd ddweyd am dano, "Cu iawn fuost genyf fi," nid oedd modd i neb fod yn ei gyfeillach ef heb gael ei argyhoeddi ar unwaith ei fod yn nghyfeillach un a'i "ymarweddiad yn y nefoedd." Yr oedd ei "eiriau bob amser yn rasol, ac yn peri gras i'r rhai a wrandawent arno." Yr oedd myned o'i gyfeillach ef i'r areithfa, yn nesaf at fyned o gyfeillach Duw yno. Gwyn fyd na byddai mwy o'i gyffelyb yn hyn. Yn lle bod yn blwm wrth odre, byddai ef yn adenydd o dan y pregethwr. Deuai oddiwrth Dduw i'r capel—ac yn gyffredin pan ofynid iddo ddechreu yr oedfa, tynai y nefoedd atom ni, a chyfodai ninnau at y nefoedd. " Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn,—tynerach oedd ei eiriau nag olew;" ac felly yr oedd ei galon ef hefyd. Yr oedd yn hawdd deall mai calon wedi ei thyneru oedd ganddo ef; tywalltai hi gerbron Duw, "ei wefusau a ddyferent" mewn gweddi " fel y dil mel." Gwr mawr mewn gweddi ydoedd, a "gofid sydd arnom byth am dano ef." Anaml y gwelir swyddog 2 E