Skip to main content

Y DYSGEDYDD. GORPHENAF, 1847, LLYTHYR CAREDIGOL ODDIWRTH WEINIDOGION CYNNULLEIDFAOL, WEDI EI YSGRIFENU AR EU DYMUNIAD GAN Y PARCHEDIG ARTHCR JONBS, AC A ANFONWYD i'R EGLWYSI ANNIBYNOL, YN OL BU HEWYLLYS, YN LLANERCHYMEDD, MON, MEDI 29, 30, 1813. Daeth hen gopi deng mlwydd ar hugaiu i law, a meddyliwyd y byddai yn hoff gan lawer, trwy ailargraffiad, weled ewyllys da hen weision Duw. Llanerchymedd, Môn, Medi 29, 30, 1813. Gweision Iesu Grist, y rhai a elwir yn y Bibl, angylion yr eglwysi, gweithwyr, gwylwyr dros eneidiau, goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau, planwyr, dyfrhawyr, cydweithwyr Duw, colofnau, cenhadau dros Grist, a blaenoriaid sydd yn traethu i chwi air Duw,—at yr Eglwysi, y rhai a elwir yn y Bibl, merch y Brenin, teulu Duw, colomenod, defaid y Bugail da, rhai llednais y tir, rhai wedi eu dysgu gan yr Arglwydd,— Anwyl garedigion, ni allwn eich annog at un llysieuyn pereiddiach yn yr ardd na chariad brawdol, Can. 6. 2. Mae rhai meddygon yn gwneuthur cyffyriau i feddyginiaethu ugeiniau o glefydau corfforol; ond cariad brawdol sydd yn eff- eithiol i feddyginiaethupob afiechyd yn yr eglwysi, Diar. 10. 12; 1 Cor. 13; 1 Pedr4. 8. Heb hwn bydd gweddi a phob dyledswydd arail yn afìacli ac aflwydd- iannus. Ni wnai Satan fwy o ddrwg wrth dynu yr haul o'r ffurfafen (pe gallai) na thynu cariad o'r frawdoliaeth. Mae eisieu cariad brawdol yn yr eglwysi gymaint ag sydd eisieu bwyd a dwfr yn y byd yma. Dywedir yn hanes teyrnas Ffrainc am hen ŵr ag oedd yn ymadael o'r llys i fyw gweddill ei ddyddiau o'r neilldu. Gofynodd y brenin iddo am adael gair o gynghor cyffredinol ar ei ol yn y Uys. Ar hyn cymerodd bapyrlen, ac ysgrifenodd ar y cŵr uchaf, ar y canol, ac hefyd ar y cŵr isaf, y gair cymedroldeb, yn arwyddo drwy hyny y modd i'r brenin sicrhau ei deyrnas. Felly y mae yr hen gynghorwr apostol- aidd, sef Ioan, wedi dywedyd wrthym ninnau lawer gwaith am gariad brawdol, ac yn arwyddo mai dyna y modd i sicr- hau diogelwch yr eglwys. Da fyddai fod pob dyn yn cofio y cynghor, " Carwn ein gilydd," wrth ddechreu a diweddu ein dydd, a phob amser yn meddwl am ygeiriau, "Anwylyd, carwn eingilydd." Na fydded dim i'r gwrthwyneb ar ein papyrlen; ond "carwn ein gilydd" yn y diwedd hefyd, 1 Ioan 4. 7. Llwydded yr efengyl, yr hon a dry lawer blaidd yn oen, ac ni thry byth oen yn flaidd. Tuag at holi ein hunain a'n gilydd a ydym yn feddiannwyr ar y gras an- nhraethol werthfawr hwn, edrychwn ar bedwar o bethau ynddo,—I. Ei natur. 2. Ei eangder. 3. Ei barhad. 4. Ei lafur. 1. Ei natur sydd ysbrydol. Nid cariad naturiol o waed a chnawd ydyw, ond ysbrydol—o Dduw. "A phob un a'r sydd yn caru yr hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd o hono," 1 Ioan 5. 1. Mae hyn i'w weled yn feunyddiol yn mysg dynion: lle byddo tad yn cael ei garu, cerir ei blentyn hefyd, a hyny er mwyn y tad. Fellý y mae y rhai sydd yn caru Duw, y maent yn caru ei blant ef, a hyny er mwyn eu Tad. Rhosyn blodeuog yw cariad ys- brydol, ac ni thyf hwn yn ngardd anian lygredig; nid yw ei arogl yn bêrgan neb ond ailenedig blant y Tad, Esay 35. 1; Can. 1. 3; a 4. 11. Nid yr un peth, bob amser, yw caru duwiolion ag ydyw eu caru am eu duw- ioldeb. Gall duwiolion gael eu caru oblegid eu cyfoeth, eu dysgeidiaeth, eu 2 A