Skip to main content

Y DYSGEDYDD MEHEFIN, 1847, HAJ5TES DE, JOHN WICKLIFFE, Diammau y bydd yn hoff gan lawer o ddarllenwyr y Dysgedydd gael ych- ydig o hanes yr enwog Dr. John Wick- liffe, yr hwn y mae ei glod yn uchel yn yr holl fyd crefyddol. Ganed ef yn y flwyddyn 1324, mewn pentref a elwir Wickliffe, yn agos i Richmond, swydd Gaerefrog. Yn mherthynas i'w rieni, a'i ddyddiau boreuol, nid oes genym un wybodaeth sicr a phenderfynol, ond iddo gael ei ddwyn i fyny mewn dysg- eidiaeth yn Rhydychain, lle y cynnydd- odd yn fawr yn mhob cangen a addysgid y dyddiau hyny. Amlygid ynddo er yn fore duedd ymofyngar i chwilio y gwir- ionedd drosto ei hun, ac annogai bawb eraill i ddefnyddio y galluoedd â pha rai y cynnysgaeddodd y Creawdwr hwynt i wneuthur felly, yn lle cymeryd eu rhwymo gan ragfarn a choelgrefydd, i dderbyn pob peth fel y traddodid ef iddynt gan eraill. Dygwyddodd ei fod ar y ddaear ar yr amser ag yr oedd gormes, trahausder, a thrais-lywodraeth yr Eglwys Gatholig yn anhyddwyn i'r gwledydd, a phryd yr oedd ei gormesiad ar freintiau prifysgol Rhydycbain, trwy y monachod, a'r Frawdoliaeth Gardotaidd, fel eu gelwid, y rhai oeddynt, er's mwy na chan mlynedd o'r blaen, wedi ymsefydlu yn Rhydychain, wedi ymgyfoethogi, ym- ddyrchafu, a gosod i fyny awdurdodaeth o'r eiddynt eu hunain—ond dan nawdd a llywyddiaeth y Pabau; gan beri blin- der a rhwystr mawr i'r brifysgol; a'i waith yn amddiffyn breintiau yr ysgol yn wyneb hyn oedd yr achlysur cyntaf i ddoniau Wickliffe fyned yn hysbys i'r holl deyrnas. Mewn canlyniad, gwnaed ef yn athraw yn ysgoldy Baliol, yn y flwyddyn 1361. Tua'r amser hwn yr oedd y Pab Urban wedi rhybuddio y brenin Ëdward o'i fwriad i'w wysio ef, trwy gynghaws, i'w lys, yr hwn ydoedd y pryd hwnw yn Airgnon, i ateb am ei ddiffyg o dalu y warogaeth, yr hon a gydnabyddwyd gan ei ragflaenor, y brenin John, i esgobaeth Rhufain, dros deyrnas Lloegr a'r Iwerdd- on; ac am wrthod talu y deyrnged ddy- ledus i'r esgobaeth hòno. Yr oedd y brenin wedi penderfynu gwrthwynebu y cyfryw arddelwad, a'r Senedd wedi cy- meradwyo y penderfynîad; ond yr oedd rhyw fynach wedi cael yr eondra i amddiffyn y Pab, ac i sefyll dros union- deb yr arddelwad. Yn erbyn y cyfryw ysgrifenydd cyflwynodd Wickliffe ei hun fel gwrthwynebwr galluog a goleu; a dangosodd anghyfiawnder yr arddelwad, ac afresymoldeb y trais-lywodraeth a chwennychai y Pabau osod ar yr holl wledydd, a'r priodoldeb o'u gwrthsefyll, yr hyn a'r gwnaeth yn hysbys i'r brenin a'r Senedd, ac a daenodd ei glod trwy yr holl wlad, a chymeradwywyd ei waith gan y llywodraeth. Mewn canlyniad, rhoddwyd iddo warcheidwadaeth yn ys- goldy Caergaint, a Rhydychain; ac yn y flwyddyn 1365, dyrchafwyd ef i gadair Athraw Duwinyddol yn y brifysgol, yr hon sefyllfa oedd dra boddhaol gan y diwygiwr: canys wrth fod yno, yr oedd ganddo, yn ei wersi beunyddiol i'w ddysgyblion, gyfleusdra i daenu ei eg- wyddorion, fel halen yn ffynhonell dyfr- oedd, i'w dwyn ar led y byd yn ffrydiau dysgeidiaeth y gwŷr ieuainc. Mewn cenhadaeth oddiwrth y llywodraeth hon i lys Rhufain, anfonwyd ef yn un o'r cenhadau, yn y flwyddyn 1370, lle y cyflawnasant eu swydd i gymeradwyaeth. Gwnaeth, y pryd hwn, ymofyniad manwl i egwyddorion a thumewnol ranau yr Eglwys Babaidd ; a gwelodd fod mwy o anghyfiawnder, trais, a drygioni yn perthyn iddi, nag a feddyliasai erioed; fel, mewn canlyniad, y daeth yn fwy eofn yn ei gyhoeddiadau yn ei herbyn.