Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. M A I, 1847 RHWYMEDIGAETH DYN I DDÜW YN SYLFAEN A GRYM EI H0LL IS-RW YMEDIGAETH AU. Mae yrholl greadigaeth naturiol a moes- ol yn rhwymedig i'r hwn a'i gwnaeth, o'r tywodyn lleiaf hyd y blaned fwyaf, ac o'r ymlusgiad distadlaf hyd y cerub gogoneddusaf. Mae y gwlaw yn rhwymedig i'w Dad, a'r cwmwl i'r hwn sydd yn rhwymo ei odre. Maje y ser a'r planedau yn rhwym- edig i'r llaw a'u gwnaeth, ac ordeiniadau y nefoedd yn rhwymedig i air yr hwn a ddywedodd, "Bydded." Mae goleuni a thywyllwch yn rhwymedig i'r hwn a'u gwahanodd, ac oerni a gwres yn rhwym- edig i'r hwn a "greodd ogledd a dehau." Mae y ddaear yn rhwymedig i'r hwn a'i gosododd ar ei sylfeini, a'r môr i'r hwn a'i cauodd â dorau. Y mae ehediaid yr awyr, anifeiliaid y maes, bwystfilod yr anialwch, a physg y môr yn rhwymedig i'r hwn a'u gwnaeth wrth eu rhywogaeth. Dyn hefyd sydd rwymedig i'r hwn a'i gwnaeth "ar ei lun a'i ddelw ei hun." Ond nid yr un natur yw rhwymedigaeth dyn a rhwymedigaeth creaduriaid di- reswm. Mae rhwymedigaeth pob cre- adur i'w Grëwr yn ol ei natur.. Mae dyn o natur uwch na holl greaduriaid y byd; am hyny, mae ei rwymedigaeth hefyd o natur uwch. Gan fod dyn yn greadur moesol, mae rhwymedigaeth dyn hefyd o natur foesol, yr hon yw sylfaen a grym^ ei holl îs-rwymedigaethau. Mae dyn yn naturiol rwymedig i'w Gr'èwr. Wrth rwymedigaeth naturiol yr wyf yn deall rhwymedigaeth darddedig o, a seiliedig ar, natur pethau. Fod peth- au yr hyn ag ydynt sydd yn gwneud y rhwymedigaeth yr hyn ydyw. Fod tad yn dad yw sylfaen ei rwymedigaeth dadaidd; ac fod mab yn fab yw sylfaen ei rwymedigaeth fabaidd. Heb fod brenin a deiliaid, nis gall fod rhwym- edigaeth lywodraethol; ond pan y mae brenin, y mae deiliaid hefyd; a chan fod brenin a deiliaid, rhaid, yn ol natur pethau,fodrhwymedigaethlywodraethol. Felly hefyd, gan fod Creawdwr, rhaid fod creadur, oblegid y mae cydhanfodiad rhwng Creawdwr fel Creawdwr â chread- ur; a chan fod Creawdwr a chreadur, rhaid fod rhwymedigaeth, yn ol natur pethau, ar y creadur i'r Creawdwr. Mae dyn yn sefyll mewn rhwymedigaeth ddeublyg i Dduw, sef fel Creawdwr ac fel Iachawdwr: sylwedd y plyg blaenaf yw cariad, oblegid " cyflawnder y gyfraith yw cariad;" asylwedd yr olaf yw edifeir- wch, " Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd." Mae cyfiawnder yn rhwytno dyn i garu, ofni, a gwasanaethu Duw. Mae cyf- iawnder yn gofyn i'r hwn sydd yn ber- ffaith dda, ac oll yn hawddgar, gael ei garu o flaen ac uwchlaw pawb a phob peth. Anghyfiawnder yn Nuw ei hun fyddai caru unrhyw beth yn fwy neu yn ogymaint ag ef ei hun. Mae Duw yn rhwym iddo ei hun i garu ei hun yn fwy na'r holl greadigaeth, oblegid fod an- feidrol fwy o ddaioni ynddo ef nag sydd yn yr holl greadigaeth. Ac y mae yn gymaiut o anghyfiawnder i ni garu y creadur yn ogymaint a'r Creawdwr, ag ydyw y Creawdwr yn fwy na'r creadur. Mae cyfiawnder yn rhwymo pob dyn i ofni Duw oblegid fod anfeidrol fawredd yn perthyn iddo: mawr yw, a mawr yw ei enw mewn cadernid ; am hyny, pwy nid ofnaFrenin y cenhedloedd? Duw yn unig sydd i'w ofni, oblegid efe yn unig sydd yn "Dduw mawr ac ofnadwy." Mae y brenin i'w anrhydeddu, ond Duw sydd i'w ofni. " Ofna Dduw." Mae cyfìawnder yn rhwymo pob cre- adur dibynol ar Dduw i wasanaethu Duw; a chan mai ynddo ef y mae dyn yn byw, yn symud, ac yn bod, mae gwasanaeth dyn yn gyfiawn iddo ef. Mae pob daioni a