Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. MAWRTH, 1847, D R , W A T T S , "Who dead but yet speaketh."—Pall. Ni fydd enw Dr. Watts yn beth dyeithr i glustiau ein darllenwyr, ond gwyddom eu bod wedi clywed son am dano, a'i fbd yn ddyn enwog. Ac er ei fod wedi marw er's dros gan' mlynedd, mae ei enw mor newydd a phe buasai wedi marw yn ein dyddiau ni. Mae pawb rywfodd wedi clywed son am Dr. Watts; ac y mae ei enw mor gydnabyddus, o'r plentyn pedair oed (yn enwedig y Saeson) hyd yr henafgwr pedwar ugain, a phe buasai gymydog neu gydymaith yn byw yn ein hymyl. ■ Gallwn ddywedyd am waith Watts modd y dywedodd Awstin am y Bibl,—"Bod ynddo rydau y gall ŵyn fyned drwyddynt, a dyfnderoedd y gall yr elephant noíio ynddynt." Ac felly Watts, mae ynddo rydau y bydd yn hoff gan y plentyn bach eu canu, ac a ddysg hyd yn oed oddiar fron ei fam; ac hefyd ysgrifenodd ddyfnderoedd ag y bydd dysgedigion yn synu mewn mudandod uwch eu penau. Y mae Dr. Watts yn sefyll mor uchel yn nhyb y byd moesol a chrefyddol ag y gwna rhai fel Syr Isaac Newton, Bacon, Shakspeare, Milton, &c. yn eu cylchoedd hwythau. Hynododd Watts ei hun mewn ffordd mwy rhagorol; defnyddiodd ei dalent yn fwy er gogoniant Duw a llesâd i ddyn. A pharha cof o Dr. Watts tra pery trigolion daear i barchu enwau a choífadwriaeth duwiolion enwog. Isaac Watts, D. D. oedd yr hynaf o naw o blant, ac a anwyd Gorph. 17, 1674, yn Southampton, tref a phorthladd cyfleus yn nehau Lloegr, yn agos i'r Isle of Wight. Galwyd ef yn ol enw ei dad, yr hwn oedd barchus a chymeradwy yn y dref, ac yn cadw ysgol yno, (boarding school). Byddai cyrchfa fawr ato; rhai yn dyfod mor bell ag o'r Amerig, a'r India Orllewinol. Ymneillduwr selog ydoedd, ac ymddengys iddo gael ei garcharu o achos ei grefydd. Dywedir y byddai mam Watts yn myned at y carchardy, ac yn eistedd i wylo ar gàreg oedd gyferbyn â'r drws, a'i mab hynaf yn ei breichiau, ac yn rhoddi sugn iddo. Bychan y gwyddai y fam fod ganddi, yn ei thristwch, gymaint o achos llawenhau, a'i bod, dan wylo, yn magu mab a fyddai yn oleuad dysglaer i grefydd, ac yn un o brif enwogion yr oes. Yr ydoedd awydd ynddo yn ieuanc am gael llyfrau a darllen; a phan roddai rhyw un arian iddo, gwaeddai, "Llyfr, llyfr, mi âf i brynu llyfr." Dysgodd gyda'i dad, erbyn ei fod yn bedair oed, ran fawr o'r iaith Lladin; ac fel yr oedd yn cynnyddu mewn oedran, yr oedd ei awydd i ddysgu yn cydgynnyddu, a dangosai ei feddwl gymaint o eisieu ^wybod- aeth ag a ddangosai ei gorff o eisieu bwyd. A phe ystyriem, y*mae yn llawn mor angenrheidiol i'r naill a'r llall gael bwyd; a dyledswydd arbenig rh'ieni yw bod yn ofalus am roddi bwyd iach a maethlon i fedd- yliau eu pJant, sef manteision a chynghorion priodol, er goleuo ac eangu eu gwybodaeth. Tra anaml y byddwn yn gweled plant duwiol, a dynion enwog, yn dilyn rh'ieni anfucheddol. Yn hyn cafodd Dr. Watts fantais werthfawr, trwy gael cynghorion ei dad duwiol i'w hyfforddi yn mhen ei