Skip to main content

y Dpsaedpdd "AY hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." LLENYDDIAETH YR IUDDEWON ODDEUTU DYDDIAU CRIST. GAN Y PROFF. E. ANWYL, M.A., ABERYSTWYTH. The Ethiopian Book of Enoch, edited by the Rev. R. H. Charles, D.D. The Book of Jubilees, by the same author. |AU lyfr yw y rhai uchod allan o amryw o'r un cyfnod a gyhoeddwyd gyda chyfieithiad, rhagarweiniad, a nod- iadau, gan wr tra dysgedig, yr hwn a wnaeth hanes y meddwl Hebreig yn nyddiau Crist yn faes astudiaeth arbenig iddo'i hun. Pan orphenir y gyfres o weithiau ysgolheig- aidd ar y rhai y mae er's blynyddoeddd bellach yn gweithio, bydd t>r. Charles wedi cyflawni gwasanaeth tra gwerthfawr i efrydwyr y Testament Newydd a hanes y Genedl Israel. Y mae, yn wir, amryw eraill yn efrydu yn yr un meusydd a Dr. Charìes, yn enwedig yn yr Almaen; ond nis gwyddom am neb a ddangosodd yn y pynciau hyn fwy o graffder beirniadoi nag efe, nac a iwyddodd i osod allan ei gasgliadau gyda mwy o eglurder. Hyderwn y caiff hir oes i gwblhau y gwaith a ddygodd yn mlaen hyd yma mor ragor- ol, ac i symio i fyny ei gasgliadau pwysig mewn ííurf gyfleus i'r dar- Henydd cyfíredinoi yn ogystal ag i ysgolheigion profíesedig. Rhwng ymchwiliadau i gyflwr gwleidyddol a chymdeithasol y byd dwyrein- iol, yn nyddiau Crist, gan wýr fel y Proffeswr Ramsay o Aberdeen, ac eiddo Dr. Charles ac eraill, i'w dueddiadau meddyliol, bydd esboniadaeth y Testament Newydd ar dir cadarnach nag erioed, a gellir disgwyl llawer o oleuni newydd ar gwestiynau sydd hyd yma Vn bur dywyll. Mantais fawr yn y pen draw fydd efrydu cynwys y Testament Newydd o safbwynt hanesyddol; daw natur ei genadwri o hyny yn eglurach, a deallir yn well ei wir ragoriaeth a'i ogoniant. Gwelir fod ei atebion ef i gwestiynau dyrys yr oes hono yn parhau yn eu grym a'u gwerth, tra y profodd amser yn eglur ì'r Iuddew a'r Groegwr mai gau cedd pob atebiad arall. Gwelwn heíyd yn eglur- ach wrth astudio'r Testament Newydd ochr yn ochr â llenyddiaeth yr Iuddew yn yr un cyfnod, mor eang a dynol yw cydymdeimlad y blaenaf, tra y ceir balchder cenedlaethol yr Iuddew, a chulni ei ? h