Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedî ei Uno." ^ / n feó Cyf. NEwrc>D.^3/~ MAWETH, 1903. Hen Gyf.~5ẅT. DADBLYGIAD YR ATHRAWIAETHAU CRISTIONOGOL. GAN Y PROFFESWR T. REES, M.A., ABERHONDDU. IN o arwyddion mwyaf addawol y cyfnod presenol yw, fod ei ysbryd ymchwilgar wedi dod gartref gydag angerddoldeb a llwyredd at ffeithiau'r bywyd crefyddol, ac naae'r ymhol- ____ iadau sydd yn cyffroi yn fwyaf nerthol feddwl goreu'r byd yw, Beth yw gwirionedd crefydd?acyn neillduol, Beth yw gwirionedd y^refydd Gristionogol? oblegid ni fu adfywiad meddyliol erioed eto nas dilynwyd ef gan ddiwygiad moesol ac ysbrydol. Mae deffroad ysbryd dyn i bosiblrwydd cynyddol a diderfyn gwirionedd a goleurii yn ei enaid, y° sicrhau cynydd, nerth, a gweithgarwch pob elfen o'i gyfansoddiad. Ond prin y mae chwilfrydedd yr oes wedi cyrhaedd Cymru eto yn ei *àWn rym. Ychydig yn ein plith sydd yn ymholi o ddifrif am sylfeini ac hanfodion crefydd; ac os gofýnir weithìau yn wylaidd, beth yw gwirionedd y grefydd Gristionogol? yr atebiad a gíywir amlycaf, sef atebiad y gwŷr sydd yn siarad amlaf ac uwchaf, yw, mai "megis ag yr °edd yn y dechreuad y mae yr awrhön, ac y bydd yn oesoesoedd." Mae nifer o athrawiaethau a dderbynir yn gyffredin genym, wedi eu trosglwyddo i ni bellach gan gynifer cenhedlaeth, heb ymholiad nac ymddadieu, fel y cymerir yn ganiataol eu bod yn gyfystyr â chynwys meddyliol Cristion'ogaeth fel y bu erioed, ac y bydd byth. Adrodda Mr. G. W. E. Russell ystori am y diweddar Ddeon Burgon sydd yn ^osod allan i'r dim agwedd feddyliol llu o honom tuag at y syniadau hyn. Dywedai cyfaill Presbyteraidd wrth y Deon nad oedd son yn y Beibl am Esgobyddiaeth. "Oes, wrth gwrs," atebai yntau, "onid ydych yn cofio y dywedir i'n Harglwydd cyn ei esgyniad, siarad Hawer a'i ddisgyblion am ei deyrnas, wrth g-wrs, dweyd yr oedd wrth- ynt yr angen am Esgobyddiaeth." O'r tu arall, gwyr y neb sydd yn gwyüo meddwl crefyddol ein gwlad, fod tòn o chwilfrydedd yn llanw yn ddistaw ac araf, ond yn sicr, i gyfeiriad y traddodiadau mwyaf cysegredig, a'r athrawiaethau * dybir fwyaf hanfodoL Mae'r achosion yn amryw ac amrywiol, aç