Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. flfcí Y PECHOD YN ERBYN YR YSBRYD GLAN. GAN Y PARCH. D. STANLEY JONES, CAERNARFON. EL yr eheda gwylan y môr hyd wyneb maith y lli gan drochi blaenion ei hedyn yn mrig y don, heb wybod nemawr ddim am gyfoeth a nerth dyfnderau glas yr eigion, íelly hefyd, ni chaf inau ond prin wlychu blaen- ion edyn fy amgyfíredion yn ewyn tonau llanw pwnc hyn o erthygl. Nid oes neb eto wedi canfod ond yn brin i natur y drwg yna, ac ni ddy wed y Beibl fawr o ddim yn ei gylch, ond yn unig fod ei gyflawni yn argoel o ddibrisdod ac anfoes ar awdurdod Duw, ac yn sarhad o'r mwyaf ar 3' Drindod fendigaid lân. Teimlir cryn anhawsder i egluro y pwnc yma fel ag i'w gymhwyso yn ymarferol a rhoddi iaith groew ddiamwys i'w neges at y byd. Peth hawdd ddigon yw esbonio pwnc yn gywrain a choeg-ddysgedig, ond peth gwir anhawdd ydyw egluro pwnc yn syml ac ymarferol. Un peth sydd yn ei gwneud yn anhawdd esbonio y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân ydyw y ffaith ei fod yn bwnc ar ei ben ei hun, heb yr un arall tebyg iddo'n bod. Felly nis gellir ei gydmaru na'i gyferbynu â'r un pwnc o gyffelyb anian a neges iddo ei hun. Drwy gydmaru pethau â'u gilydd, yn unig y medrwn ni ganfod i'w hystyr a'u prydferthwch. Tuagat ddeall unrhyw beth yn drwyadl y mae yn ofynol edrych arno yn ngoleuni y pethau sydd o'i gylch; a rhaid barnu dyn, yntau, yn llewyrch ei berthynas â'i gyd-ddynion. Gwres ac afiaeth cymdeithas sydd yn deffro athrylith ac yn galw allan adnoddau cudd cymeriad dyn. Felly hefyd, bydd un adnod ambell dro yn taflu fiiach o oleuni i wyneb adnod arall, a goleuni y naill bwnc yn tywynu ar nos a chaddug pwnc arall, hyd oni welir y ddau yn eglur fel canol dydd. Yn heol un o benodau mwyaf adnabyddus y Beibl, y mae yna ddwy adnod yn byw. Mae y naill a'i drws yn gauad a'i geiriau yn brin, tra y mae y llall a'i throed ar y trothwy a'i chalon ar ei gwefus o foreu gwyn tan nos. Nid oes nebyn troi at ddrws yr hen adnod ddyrys unwaith yn y ped- war amser; ä yr athraw yn yr Ysgol Sul yr ochr arall heibio fely Lefiad hwnw yn y ddameg, ac ä y pregethwr, yntau, heibio yr ochr bellaf i'r heol gan edrych yn ddychrynedig fel y plentyn bach pan fyddo yn myned heibio i fangre y bwgan gyda'r nos. Tyf porfa las a mwswgl gwyrdd o gwmpas drws yr hen adnod ddistaw,