Skip to main content

Y DYSGEDYDÜ. cu/ì ___ Hen Gyf.—>9é. GORPHENAF, 1902. ^CyìTS^wydd^364T' CRIST FEL DIWYGIWR. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. "Wele fi yn anfon fy nghenad, ac efe a arloesa y ffordd om blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ci geisio, i'w deml; «ef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd. Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion. ■A-c efe a eisetdd/eî purwr a glanhawr .arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a'u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddonfc yn offrymmu i'r Arglwydd °ffrwm mewn cyfiawnder."—Mal. iii. 1—3: |I wyddis nemawr ddim am y prophwyd duwiol a ysgrifen- odd y llyfr olaf hwn o lyfrau yr Hen Destament; oblegid nid oes genym air o son am ei rieni, lle ei enedigaeth, na'i ddygiad i íyny, &c. Mae yn amheus a ydyw hyd yn °ed ei enw yn adnabyddus, oblegid ystyr yr enw Malachi yw cenad, ac y mae yn anhawdd penderfynu gyda sicrwydd, pa un ai enw personol y prophwyd, ai ynte enw swyddol arno yw hwn. Ond y niae yn amlwg, pa fodd bynag, mai pregethwr ymarferol, yn hyt- rach nag athrawiaethol ydoedd; ac fe dybir ei fod yn cydoesi ac yn cyd-lafurio â Nehemiah, ac felly ei fod yn gweinidogaethu yn nihlith yr Iuddewon, wedi eu dychweliad adref o £,aethiwed Babilon; ac o 400 i 450 o flynyddoedd cyn ymddangosiad Crist yn y cnawd. ^ae yn amlwg fod crefydd ysbrydol yn ìsel a dirywiedig iawn yn nyddiau Malachi, a bod anfoesoldeb, a llygredigaeth, ac annuw- jiaeth yn ffynu 1 raddau dirfawr. Yr oedd y gwyr yn ysgar a'u gwragedd Iuddewaidd, er rawyn ymgjrfathrachu â gwragedd pagan- aidd; yr oedd y barnwyr yn cymcryd eu llwgrwobrwyo i wneuthur anghyfìawnder; yr oedd y meistrìaid yn gorthrymu y gweithwyr, ac yii cam-atal eu cyflog; yr oedd y swyddogion a'r blaenoriaid eg- Iwysig yn ddynion anianol eu hysbryd ac annheilwng eu buchedd- au; ac yr oedd y dull y cerid yn mlaen yr addoliad a'r gwasanaeth creíyddol yn feius a phechadurus iawn; oblegid yr oedd dynion yn lle^abertbu y goreuon i Dduw, fel y dylasent, yn cyflwyno anifeiliaid anafifus, nad oeddynt yn gymhwys i fyned i'r farchnad, yn ebyrth ^ddò, Ac wrth weled dynion drygionus yn llwyddo, yr oedd llawer ^edi myned i amheu a gwadu îlywodraeth Duw dros y byd, ac i ddweyd mai oferedd oedd gwasanaethu Duw, &c. Yr oedd y Proffwyd yn eu rhybuddio fod barn i ddyfod, ac y gelwid dynion i