Skip to main content

y DpsôedpcW "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf Newydd.—85" RHAGFYR, 1909. [Hen. Gyf.—580. TRELECH A MORGAN JONES. GAN Y PARCH. D. G. WILLIAMS, ST. CLEARS. (Parhad.) AETH Morgan Jones i'r cylch eang hwn yn y flwyddyn 1790. Corier íod eglwys Capel Iwan yn ymuno gydag eglwys Capel y Graig yn yr alwad. Ymgymerodd Mr. Jones at y ddwy; ac yma y llaíuriodd yn ddiwyd a chyson hyd ei farwolaeth yn 1835. Gwr ieuánc 21 oed oedd Morgan Jones pan ddaeth i Drelech, genedigol o Blwyf Llywel yn Mrycheiniog; a bu am bedair blynedd yn ymbaratoi i'r weinidogaeth yn ysgol enwog y Parch. J. Grimths Glandwr. Pe gofynid i mi bwyntio allan yr adeg y crefyddolwyd Tre- lech a'r cyfhniau rhaid fyddai i mi nodi y 45 mlynedd y bu Morgan Jones yn llafurio yn y cylch. Gwir y cawsai crefydd, hyd yn oed yn ei ffurf Ymneillduol, gartref yma y'mhell cyn geni efengylydd mwyaf llwyddianus y gymydogaeth. Nid oes fawr amheuaeth na phregetiiai Stephen Hughes yn achlysurol i ddeadell fechan yng Nghwm y Dinas, yn ymyl y pentref yn hanner olaf y ddwyfed ganrif ar bymtheg. Bu farw Apostol Sir Gaerfyrddin yn 1688. Safai Capel y Graig ar ei sylfaen bresenol yn gynar yn y ddeunawfed ganrif, a bu yma bedwar gweinidog sefydlog yn llafurio o flaen Morgan Jones. Ond rhaid cydnabod nad oedd crefydd wedi cymeryd meddiant o'r holl wlad cyn dyfodiad y gwr ieuanc o Ly wel. Gwnaeth Morgan Jones waith mawr. A oedd efe ei hun yn ddyn mawr sydd gwestiwn y gellid dadleu tip\-n arno; oblegid fod amwysedd o gwmpas y gair 'mawr' pan ddefnyddir ef am ddyn. A all dyn bach wneud gwaith mawr? Cydoesai Morgan Jones â dynion a gyfrifir yn bur gyffredinol heddyw yn ddynion mawrion. neu yn sicr yn bregeth- wyr mawrion. A all dyn eto fod yn bregethwr mawr heb fod yn ddyn mawr? A oedd Christmas Evans, John Elias. a Williams o'r Wern, yn ddynion mawrion, yn gystal ag yn bregethwyr miawrion? Yn oes y gwŷr enwog hyn yr oedd Morgan Jones }-n byw. Neillduwyd ef i waith V weinidogaeth yr un flwyddyn â Christmas E\ans. Bu farw rhyw 2l