Skip to main content

"A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno.' Cyf. Nf.wydd.-81.] AWST, 1909. [Hen Gyf.-576. YR IAWN YN NGOLEUNI YR YMGNAWDOLIAD. GAN Y PARCH T. REES, M.A., PRIFATHRAW COLEG BALA-BANGOR. EDDF sylfaenol mewn Rhesymeg yw cysondeb. nas gall dau osodiad croes i'w gilydd fod bob un yn wir; ond deddf safonol yw yn hytrach na deddf naturiol; nôd yw i'r meddwl i gynyg ato, yn hytrach na deddf y mae o angenrheidrwydd natur yn ei dilyn. Ac y mae awdurdod uwch yn myd gwirionedd nag eiddo cysondeb, sef awdurdod ffeithiau. Os tystia profiad dyn yn ddiamheuol i fodolaeth dwy rTaith, megys rhyddid ewyllys dyn, a phenarglwyddiaeth Duw, er nas gall am- gyflred sut y gallant gydfodoli, y mae gan y ffeithiau hawl i gael eu derbyn. Er hyny, derbynia dyn fîeithiau felly o dan obaith, ac mewn ffydd, y gellir eu cysoni rywbryd, yn rhywle, a chan ryw reswm o'r un hanfod â'i reswm ei hunan; erys cysondeb a chyfan- edd o hyd yn nelfryd y gwirionedd, er nas gall dyn yma ac yn awr bob amser eu sylweddoli. Wrth dderbyn ffeithiau heb allu eucysoni, cyfíesu a wna dyn, nid y gall fod amryw fathau o wirionedd yn hollol ar wahân i'w gilydd: byddai hynygyfystyr â dweyd nadoes wirionedd o gwbl; oblegid y mae unoliaeth, cyfanrwydd, a chyson- deb yn deithi priodol a hanfodol y gwirionedd; ond cyffesu a wna y gall cysylltiádau a chysonderau gwahanol ranau'r gwirionedd orwedd y tu hwnt i'w ddirnadaeth, neu ei wybodaeth ef ar y pryd. Yr engraiflt fwyaf nodedig yn hanes meddwl dyn o'i waith yn derbyn dwy ffaith, a chredu dau wirionedd am gyfnod hir heb gynyg eu cysoni â'u gilydd, yw yr athrawiaethau traddodiadol am yr Ymgnawdoliad a'r Iawn, a geir yn nghyfundrefnau duwinyddol yr Eglwys Gristionogol. Nid oes dim yn amlycach yn hanes y<r Eglwys na'i phrofìad a'i chred d) fod Duw gyda ni yn Iesu Grist; ac (2) îod a fyno dioddefiadau Crist ag iachawdwriaeth dyn. Ond ceir yn ei hanes hefyd amrywiaeth mawr oamcan-dybiau yn cynyg