Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsôedpdd "AV hwn y mae yr Annibynwr wedî ei Uno.'" Cyf. Newydd.—74. IONAWít, 1909. Hen Gyf.—569. TADOLAETH DUW. GAN Y PARCH. R. THOMAS, GLANDWR, ABERTAWE. |ID oes un gwirionedd y mae yn bwysicach i ni geisio gwneud yn sicr o hono na'r gwirionedd am Dduw Heb hyn, nis gall fod ystyr a gwerth yn ein haddoliad a'n gwasanaeth crefyddol; ac nis gall ein bywyd ychwaith íod yr hyn a ddylai, a'r hyn y bwriadwyd iddo fod. I symud yn mlaen i'r dyfodol gyda diogelwch, a chysur i ni ein hunain ac i eräill, rhaid cychwyn gyda syniad cywir am Dduw ac ymddiried- aeth calon ynddo. Cyfeiliorni yn y mater hwn a'n harweinia i gyfeiliorni yn mhob peth Ma berthyn i fywyda duwioldeb." Ym- ddengys y ceir fod yna ymwybyddiaeth wreiddioi yn y meddwl dynol o fodolaeth Duw, neu o'r hyn Ueiaf o fodolaeth Rhyw-un uwch, mwy, a chryfach na'r dyn ei hun. Y mae dyn yn fawr, ond y mae yn rhy fach iddo ei hun; acnid yw ei fawredd ondei wasgu i deimlo mwy ac yn ddyfnach ei fawr angen am Dduw. Ni wnaeth y Salmydd pan y dywedodd, "Sychedig yw fy enaid am Dduw," ond rhoddi mynegiad i angen gynhenid a dyfnaf y natur ddynol. Gyda yr ymwybyddiaeth a feddwn o fodolaeth Duw, y mae arnom angen am wybod pa fath un ydyw, a pha fodd yr ydym i feddwl am dano, i deimlo tuag ato, ac i ymddwyn yn gydweddol â'i gymeriad. Y mae hyn yn bosibl yn unig ar dir datguddiad o hono ef ei hun: *'A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? aelli di gael yr Hollalluog hyd berSeithrwydd?" Na, nid mater o ddar- ganfyddiad ydyw, ond mater o ddatguddiad. Y mae dynion trwy ymchwiliadau yn llwyddo i ddarganfod pethau rhyfedd a synfawr yn aml; ond pwy erioed a ddaeth o hyd i Dduw yn unig trwy chwilio am dano? Nid ydym yn golygu awgrymu nad yw yn perthyn i ddyn chwilio am Dduw yn ol syniad yr hen benill:— «• Chwilio arn danat addfwyn Arglwydd, Mae fy enaid yina a thraw," &c. Oná y mae yn eglur fod yr emynydd yn ymdeimlo bod yr Arglwydd wedi bod yn chwilio am dano ef yn barod. Ein gobaith