Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"AY hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno.'" Cyk. Newydd.—72. TACHWEDD, 1908. Hen GFF.-567. SYLW DUW AR WEDDIAU A DAGRAU El BOBL. GAN Y DIWEDDA.R BARCH. W. AMBROSE. " Clywais dy weddi di, gwelaia dy ddagrau."—Es. xxxvni. 5. j N y dyddiau y clafychodd Hezeciah hyd farw, daeth Esaiah y proffwyd ato, gan ddywedyd, "Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw." Yr oedd wedi ei daro â chlefyd oedd yn sicr o derfynu yn farwol, oddieithr i wyrth gymeryd lle. Cynhyrfwyd ei enaid drwyddo ar dderbyniad y newydd. Ynei gyfyngder, "troes ei wyneb at y pared, ac a weddiodd ar yr Arglwydd; wylodd hefyd âg wylofain mawr." Anfonwyd Esaiah at y brenin gyda y genad- wri gysurlawn hon, "Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau." Dengys yi hanes, yn y lle cyntaf, fod siomedigaethau a marwol- aeth yn cyfarfod y dynion goreu. Wele Hezeciah, un o'r brenhin- oedd duwiolaf fu ar Judah, yn clafychu "hyd farw." Gorfodid ef i ddweyd, "Wele, yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw." Yn ail, mai peth priodol yw dweyd wrth ddyn claf, os bydd yn ymyl märw. Ni wna hyny i farwolaeth ddyfod yn gynt, ond tuedda i'w wneud yn fwy dyogel. Ni wnaethai yr Arglwydd beth creulawn â'i was Hezeciah. Yn drydydd, mai peth pwysig yw bod yn barod. Dywed yt Arglwydd wrth bob un o honom ninau, "Trefna dy dŷ." Mae yn bwysig fod ein hamgylchiadau tymhorol, ac yn enwedig ein hachosion ysbrydol, wedi eu trefnu yn dda, fel pan ddelo yr amser, na fydd genym ddim i'w wneud ond marw. Yn bedwerydd, mai noddfa y saint yn mhob trallod yw gweddi. "A oes neb yn eich mysg mewn adfyd? gweddied." Y mae gweddi yn falm ar gyfer pob peth, ac yn eli at bob clwyf, Bu yr Arglwydd mor raslawn a rhoddi "arwydd" i Hezeciah,y cyf- lawnai Efe ei air tuagato, "Wele fi yn dychwelyd cysgod y gradd- au, yr hwn a ddisgynodd yn neial Ahaz gyda'r haul, ddeg o raddau yn ei ,ol." Anfonodd ddwy genadwri drwy enau Esaiah o'r blaen. Yn 2 Bren. xix. 6, cawn Esaiah yn dweyd wrth weision Hezeciah, pan oedd gyfyng arno oherwydd bygythion Senacherib, a chabledd- ÎH