Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno."' üyf. Newydd.—68. ÜORPHENAF, 1908 Hen GYF.-563. YR IAU A'R ENEINIAD. GAN Y DIWEDDAR EARCH. W. AMBROSE. M A dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad."—Esaiah x. 27. |ID yw esbonwyr dysgedig yn hollol gytuno â'u gilydd yn nghylch ystyr briodol y geiriau hyn. Ond y mae hyn yn eithaf clir, sef, fod yma sicrwydd yn cael ei roddi y gwaredid Israel oddiwrth arglwyddiaeth ac ofn Senacherib, brenhin Assyria. Yr oedd ei fyddin yn awr yn y wlad, a'r wlad yn gorfod ei chynal, a thalu iddo yntau deyrnged, yr hyn a ystyrid yn iau drom, ac yn faich rhy anhawdd ei ddwyn. Yr oedd diwedd buan i fod ar hyn. Nid oedd y genedl mwy i íod at ei wasanaeth, ac ni byddai yn ei allu i drethu y wlad, ar ol i Ddu<w chwythu arno. Barna rhai fod y mynegiad yn edrych yn mlaen at waredigaeth yr Iuddewon o gaethiwed Babilon, ac yn mhellach na hyny at ryddhad credinwyr odditan iau orth- rymus diafol a phechod. Yr oedd yr iau y cyfeirir ati yn y testun, nid yn unig i gael ei symud, ond i gael ei dinystrio hefyd. Ni byddai yn ngallu y gelyn o Assyria mwyach i ddrygu y genedl etholedig fel o'r blaen. Ac yr oedd hyn i ddigwydd, "oherwydd yr eneiniad;" hyny y w, o'i herwydd hwy, y rhai oeddynt gyfranog- ion o'r eneiniad. Tybia Henry, fod yma gyfeiriad i ddechreu at Hezeciah, yr hwn fel brenhin oedd eneiniogyr Arglwyddar y pryd, ac fel diwygiwr ynanwyl ganddo. Yna, at Dafydd, er mwyn yr hwn, mewn modd neillduoT, yr addawai yr Arglwydd amddiflfyn Jerusalem rhag cynddaredd Senacherib, fel y gwelir yn Es. xxxvii. 35*—"Canys mi a ddiífynaf y ddinas hon, i'w chadw hi er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas." Yn y trydydd lle, 'bernir y gall fod yma gyfeiriad at y gwir Israeliaid, sef, y bobl dda hyny 0 r genedl, ag oeddynt wedi derbyn eneiniad dwyfol ras, Ac yn ^Jaf, gweddus yw tybied fod yma gyfeiriad at y Messiah, eneiniog .,u^, yr hwn y cadwai Efe olwg arno yn ei holl waredigaethau ^ bobl dan yr hen oruchwyliaeth, Yr wyf yn barnu fod yr hyn elwir yn "gyfamod" mewn maiau eraill,, yn gynwysedig yn yr T -