Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

." AV hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—60. TACHWEDD, !907. Hen Gyf.-555. Y DIWEDDAR DR. PHILLIPS, NEUADDLWYD. GAN Y PARCH. J. J. JONES, B.A., LLANELLI. iRGOEL ddymunol ar yr oes hon yw y sylw delir ganddi i'r tadau, a'r clod roddir i'w henwau. Ni wneir hyny er mwyn dyrchafu y gorphenol ac addoli ein hynafiaid fel y gwna rhai cenhedloedd ceidwadol, ond er mwyn cael oddiwrthynt ysbrydiaeth i symud yn mlaen a rhagori. Yn mhlith arwyr crefyddol ein cenedl ni saif neb yn uwch yn ei ddydd ac yn ei waith na'r gwron parchedig sydd yn benawd i'r llith hon; ac nid yw ein henwad hyd yn hyn wedi talu iddo y war- ogaeth ddyladwy. O ran cyfnod acoes nis gallwn ei osod yn mysg cychwynwyr Ymneillduaeth yn Nghymru, ond ni fu yn ol i neb i ddal ar ysbryd newydd diwedd y i8fedganrif i bregethu yr EfengyJ, sefydlu eglwysi, dyfnhau egwyddorion gwahaniaethol ei enwad, a pharatoi gweinidogion y gair. Brodor ydoedd o Bencader. Ganwyd ef yn amaethdy adnabydd- us y Scythlyn yn y flwyddyn 1772. Ar lawer cyfrif yr oedd cylch- fyd ei enedigaeth a'i febyd yn ífafriol iddo gerdded y llwybr a ddewisodd mewn bywyd. Yr oedd ei dad a'i daid yn swyddogion yn eglwys Pencader. Cawsai yr eglwys eisoes dros gan' mlynedd i greu hanes a thraddodiadau crefyddol yn yr ardal. Heb fod yn mhell yr oedd ogof Cwmhwplyn, lle cyfarfyddai Stephen Hughes a'i braidd gwasgaredigar adegyrer)edigaeth a ganlynodd ddeddfau trahaus Siarl II. Dilynwyd yntau gan restr o weinidogion da, a chodwyd dan nawdd yr eglwys nifer o bregethwyr rhagorol, megis 'Griffìthso Gaernarfon. Davies o Abertawe, a Lloyd o Henllan, &c. Heblaw h>ny yr oedd teulu y Scythlyn mewn amgylchiadau bydol cysurus, fel ag i sicrhau i'r plant yr addysg oreu a geid yn y gymydogaeth ar y pryd. Ar ol cryn betrusder dwys derbyniwyd ef yn aelod crefyddol pan yr oedd tua 18 mlwydd oed. Er yn blentyn yr oedd ynddo duedd iPregethu, ac fel llawer i bregethwr poblogaidd arall dechreuodd arfer ei ddawn drwy anerch plant yr ardal; a gwnai hyny fel rheol mewn cae arbenig yn agos i goeden neillduol a adwaenir hyd y 1 H