Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y opsgedpaa " A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.-56. GORPHENAF, 1907. Hen Gyf—551. CERDDI GWAS YR ARGLWYDD. GAN Y PARCH. D. TYSSIL EVANS, M.A.,B.SC, CAERDYDD. MAE y teitl "Gwas yr Arglwydd," yn un o'r rhai mwyaf anrhydeddus yn yr Hen Destament. Rhoddir ef i'r patriarchiaid, Abraham, Isaac, a Jacob. Gelwir Caleb a Josuah, ac amryw o'r proffwydi, wrth yr enw hwn, a cheir ef yn fynych mewn cysylltiad â dau o brif gymeriadau yr hen oruchwyliaeth, Moses a Dafydd. Gellir ei gymhwyso at unrhyw un sydd yn ffyddlon i'r Arglwydd ac yn ufudd i'w orchymynion; ond cyfyngir ef fel rheol i bersonau sydd yn enwog am eu gwasan- aeth a'u teyrngarwch. Ymhyfrydai Paul a'r apostolion eraill yn y drychfeddwl. Yr oedd yr enwau "Gwas Duw" a "Gwas Iesu Grist" yn werthfawr iawn yn eu golwg. Yn wir gellir defnyddioy teitl amlesu Grist ei hun, canys daeth efe "i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer." Ynddo ef y perfEeithiwyd ac y coronwyd gwasanaeth yr oesoedd a'r cenedlaethau. Defnyddir yr enw mewn ystyr neillduol yn y rhan olaf o broff- wydoliaethau Esaias. Ar ol y 53 benod, ceir yr ymadrodd 10 gwaith, a phob amser yn y ffurf luosog, "Gweision yr Arglwydd." Yn y broffwydoliaeth o xl—lv., ymddengys y gair "gwas" 20 o weithiau, a phob amser yn y ffurf unigol. Y cwestiwn mawr yn ei gylch ydyw, at bwy y cyfeiria, pwy sydd yn dwyn yrenw? Mae yn amlwg ei fod mewn amryw fanau yn dynodi y genedl.—"Ond tydi Israel fy ngwas, Jacob yr hwn a etholais, hâd Abraham, fy anwylyd, tydi yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac a'th elwais o'i chonglau; a dywedais wrthyt, Fy ngwasydwyt ti, dewis- ais di, ac ni'th wrthodais," xli. 8, 9. "Ac yn awr, gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais. Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a'th wnaeth, ac a'th luniodd o'r groth, yr hwn a'th gynorthwya. Nac ofna, Jacob fy ngwas, a Jeshurun yr hwn a ddewisais," xliv. 1, 2. "Cofia hyn, Jacob, acísrael, canys fy ngwas ydwyt, lluniais di, gwas i mi ydwyt Israel, ni'th anghofir genyf," xliv. 21. "Er mwyn Jacob fy ngwas ac Israel fy etholedig y'th elwais erbyn dy enw," xlv. 4. "Dywedwch, gwaredodd >t Arglwydd