Skip to main content

y Dpsôedpcid: " A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—50. IONAWH, 1907. E^iÌYF^ÔáòT' Y GRONYN GWENITH.* GAN Y DIWEDDAR BARCH. W. AMBROSE. "Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer."— lOAN xii. 24. JCHLYSURWYD llefariad y geiriau hyn, gan ddyfodiad rhai Groegiaid i arwyddo dymuniad am gael gweled yr Iesu. Daethant at Phylip gan dclywedyd, "Syr, ni a ewyllysiem weled yr Iesu." Phylip ac Andreas wedi ymgynghori yn nghyd, a benderfynasant ar ofyn i'r Iesu, —"Ein Hathraw mawr, y mae yna wyr dyeithr o Roegiaid yn ewyllysio cael dy weled." Beth a ddywedodd Crist? Oh! "Caniatewch iddynt ddyfod i mewn, a boddloni eu chwilgar- wch." Nage! Pan gly wodd swn traed y cenedloedd yn nesâu, cynhyrfwyd ei enaid. Taflodd ei olwg yn mlaen ar ogoniant y dyddiau diweddaf, pan y bydd yr holl fyd fel maes gwenith yn ysgwyd o dan awelon adfywiol ymilflwyddiant. "Yn wir, yn wir, meddaf i chwi," &c. Y mae amryw bethau yn y gronyn gwenith yn gynorthwyol i osod allan yr Arglwydd Iesu Grist; megys, y mae'n bur, felly Crist. Y mae'n dal ei bwysau o flaen y wyntyll, felly Crist. Ý mae allan bedwar tymhor y flwyddyn, yn cael ei brofi gan bob math o dywydd, felly Crist yn cael ei brofi yn mhob peth. Nid yw y gronyn gwenith mor ddefnyddiol i ddyn nes myned drwy yr oruchwyliaeth o gael ei falu, felly ni buasai Crist mor ddefnyddiol i bechadur heb ddyoddef a marw. Yn awr, nid ydym yn dweyd nad oes llawer o wirioneddau addysgiadol yn y pethau uchod. Ond nid y gwir a olygid gan Grist, ydyw un o honynt. Y meddwl yw, fod yn rhaid i'r gronyn gwenith/arîü cyn ffrwytho. Dengys hyn adnabyddiaeth berffaith y * Yn nglyn â'r Bregeth hon, gwelir y nodiad a ganlyn—"Cyfansoddwyd y Bregeth hon tua'r flwyddyn 1849. Traddodwyd hi yn Nghymanfa Manchester, Dinbych, ac Abermaw. Cesglir ychydig adgofion o honi yma, gan nad yw ar gael mewn yÄgrifen genyt'*