Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3*6 GWEDDILLION LLENYDDOL. plant—plant Joseph a Mair. Yr unijr beth a wyddora am ei chwiorydd ydyw eu bod yn cartrefu yn Nazareth. Adn. 4 Ond yr lesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proŷwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, &c. Diareb ad- nabyddus yn mynegi gwirionedd cyfif- redinol. Meddylia dynion yn ysgafn o'r hyn y maent yn gynefin a chydna byddus âg ef. V bendithion nesaf atoni, r ydym yn ei ddibrisio fwyaf. Diau efyd fod yma elfen o genfigen, o her- wydd yr anrhydedd a roddid i un o ddechreuad tymhorol mor ieel. Adn. 5. Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwytthiau, ond rhoddi, &c. Nid oherwydd fod diffyg yn ei allu Ef, ond am eu bod hwy yn ddiffygiol mewn ffydd. Yr oedd i'w wyrtbiau Ef eu trefn—eu hegwyddorion. Yr oedd ffydd yn amod angenrheidiol. Ni atehai gwyrthiau eu dyben yn eu plith; buas- ent megis gemau yn cael eu taflu o flaen y moch. Ond fe osododd ei ddwylaw ar > r ychydig gleifion, ac a'u hiachaodd hwynt. Adn. 6. Ae efe a ryfeddodd oherwydd eu hangrhediniaeth. Cawn i'r Iesu ry- feddu at flydd y canwriad, ond yma y mae yn rhyfeddu at angrhediniaeth trigolion Nazareth. Y mae hyn yn ein dysgu ei fod yn meddu arnatur ddynol berffaith. Oherwydd angrhediniaeth trigolion Nazareth y mae yn ymadael & hwy, ac yn myned i'r pentren oddiam- gylch, ac nid oes genym un hanes iddo ddychwelyd yno drachefn. "Os cau- wyd calonau yn ei erhyn yn Nazareth, fe ddefnyddiodd hyny yn gymheüiad i ymwelea a'r pentrefydd cylchynol, ac i anfon y deuddeg allan i weithio yn fwy egniol nag erioed." GWEDDILLION LLENYDDOL 'Llythyr, ac Amlinelliad o bregeth °an y diweddar Barch. Cadwalair Jones, Dolgellau, Hen Olyyydd y "Dysgedydd." GAN Y PARCH. W. PARI HUWS, B.D., DOLGELLAU. felAU mai un o banfodion cyfnodolyn llwj^ddianus ywamryw- iaeth. Os felly, dylai fod Ue ynddo nid yn unig i ryddiaeth, a barddoniaeth, &c, ond hefyd, i'r hen fel y newydd. Blasusfwyd yn ddiau yw cynyrchion ffres y presenol; a llawn mor flasus a hyny hefyd yw rhai o gynyrchion y gorphenol; fel y profa pregethau Williams o'r Wern, a Éilsby, a gaed yn y Dysgedydd diweddaf. Ac wrth eu darllen daeth i'm côf fod genyí finau ychydig weddrilion llenyddol perthynol i "Hen Olygydd" y Dysgedydd, y rhai a ddaethant i'm llaw trwy hynawsedd Mrs. Jones, priod y diweddar Mr. Enoch Jones, Cefnmaelan, un o feibion yr "Hen Olygydd." Er fe ddichon, nad ellir ystyried fod llawer o werth yn y gweddillion hyn ynddynt eu hunain; eto, pan gofir i'w hawdwr fod yn golygu y Dysgedydd am 31 mlynedd; a'i fod bellach wedi marw er's yn agos i 40 mlynedd; a'i fod hefyd yn wr arbenig yn ei enwad a'i oes, o ran gallu, cymeriad, a dylanwad, nid rhyfedd ein bod yn edrych mor barchus ar y cyfryw weddillion, nes awyddu eu cael ar gôf a chadw, trwy gyfrwng yr hen gyhoeddiad hygíod y bu gan yr "Hen Olygydd" gymaint o ran i'w anfarwoli. Heblaw hyny, gall y Llythyr, a'r Amlinelliad o Bregeth, daflu peth goleuni ar yr Hen Olygydd, a'i gyfnod; a'n c/northwyo i gael syniad am dano fel dyn, pregethwr, a duwinydd. Gwelir i'r llythyr gael ei ysgrifenu Tachwedd, 1820, pan oedd Mr. Jones yn $] mlwydd