Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsgedpdd " A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—44 GORPHENAF, 1906, Hen Gyf.— 539. GWELEDIGAETH ESAIAH. GAN Y PARCH. OWEN EYANS, D.D. "Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu ara danaf; oherwydd gwr halogedig ei wefusau ydwyf íi, ac yn mysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo; canys fy llygaid a welsant y Brenhin, APiGLWYDD y lluoedd. Yna yr ehedodd ataf un o'r Seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefail; ac a'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â'th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod." &c. •—Esaiah VI. 5—30. |E gawn yn y bennod hon hanes gweledigaeth nefol a rodded i'r proffwyd enwog Esaiah ar ddydd ei ordainiad; ac yn y weledigaeth fawr hon fe gawn olwg ar Dduwyn myned trwy y gwaith pwysig a chysegredig o wneud proffwyd. Yr oedd y swydd frenhinol a'r swydd offeiriadol yn etifeddiaethol; ac felly yr oedd dynion yn dyfod i'r swyddi hyny trwy achyddiaeth, ac yn annibynol ar eu cymeriadau a'u cymhwys- derau personol. Ond am y swydd broffwydol—yr Arglwydd ei hun oedd yn dewis ac yn galw y neb a fynai i'r swydd hono; ac nid oedd efe byth yn galw neb iddi heb ei rag-barotoi a'i gymhwyso i'w llenwi. Nid rhag-fynegu pethau i ddyfod oedd unig na phrif waith proffwyd. Mae yn wir i lawer o'r proffwydi sanctaidd rag-fynegu pethau nad oedd yn bosibl i'r dynion crafÊaf a chryfaf eu galluoedd eu rhag-weled heb gael datguddiadau goruwch-naturiol o honynt. Ond pregethwyr ysbrydoledig i'w cyd-wladwyr a'u cyd-oeswyr eu hunain oedd proffwydi yr Arglwydd yn benaf. Yr oedd rhai o honynt, megys Amos ac eraill, yn ddynion heb gael nemawr o fan- teision addysg fydol; ond yr oedd y gwir broffwydi i gyd yn ddyn- ionda a duwiol, ac yn ddynion o dalentau adoniauuwchraddol; a'r mwyaf a'r dysgleiriaf ei dalentau o honynt oll oedd Esaiah. Yr oedd efe yn wr o feddwl coeth a diwylliedig, yn fardd o'r radd uwchaf, ac yn wladweinydd galluog, yn ogystal ag yn broffwyd enwog. Yr oedd y proffwyd Michali yn cyd-oesi âg Esaiah1; ondyr 1 Cymharer Esaiah i 1, a Micah i. 1.