Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsaedpdd *'A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Nrwydd.—38. IONAWK, 1906. Hen Gyf.—533. YR IESU A'l GYFEILLION. XI.—Y LLEIDR EDIFEIRIOL. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. "Ae efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia íi panddelych i'thdeyrnas. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y hyddi gyda mi yn mharadwys."—Luc xxiii. 42, 43. |ICHON y bydd ambell un yn synu ac yn rhyfeddu ein bod yn gosod y lleidr ar y groes yn mysg cyfeillion yr Iesu; ond yr ydym yn teimlo fod y truan hwn wedi enill yr hawl yn deg i'r anrhydedd o gael ei restru yn mhlith y cyfryw; oblegyd yr ychydig eiriau a lefarwyd ganddo eí oeddynt yr unig eiriau caredig a ddisgynasant ar glust y Gwaredwr tra bu yn hoeliedig ar bren melldigedig y groes. Ac y mae yn sicr fod cyffes a gweddi ffyddiog y pechadur edifeiriol hwn wedi bod yn gordial i feddwl sanctaidd ein Harglwydd yn nghanol ei boenau ar- teithiol; ac felly fe gafodd y lleidr hwn y fraint o wneud gwasan- aeth cyffelyb iddo ar y groes i'r gwasanaeth a wnaethid iddo ychydig oriau cyn hyny gan yr angel a fu yn ei nerthu yn ei ing yn yr ardd1. Yr oedd y proffwyd wedi rhag-fynegi ganoedd o flynyddoedd yn mlaen llaw, y byddai i'r Messiah gael "ei gyfrif gyda'r trosedd- wyr;"* ac fe gyflawnwyd y broftwydoliaeth hon trwy ei groes- hoelio rhwng dau leidr. Fe wnaed hyn yn ddîau gyda'r amcan maleisus o bentyru mwy o ddirmyg a gwaradwydd arno. Ond fe oruwch-reolodd rhagluniaeth ddoeth y nef yr ystryw hon o eiddo ei elynion i fod yn achlysur i'w ogoneddu, trwy roddi cyfleusdra iddo i amlygu ei aîlu a'i raslonrwydd fel Gwaredwr yn nghadwedig- aeth y Ueidr edifeiriol oedd yn trengu wrth ei ochr. Wrth edrych ar y tair croes hya yn ymyl eu gilydd ar Galfaria, yr ydym yn gweled yn eglur y dylid bod yn ochelgar a gwyliadwr- •us lawn rhag barnu cymeriadau a chyflyrau dynion wrth eu ham- .gylchiadau. Dyma dri o bersonau yn dyoddef yn hollol yr un iLue zzii. 43; «E&aiah liii. 12.