Skip to main content

y Dp$ôedpdd ilA'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyf. Newydd.—33. AWST, 1905. Hen Gyf.—530. Y LLEF O'R DYRFA. DYFYNIADAU O'R ANERCHIAD O GADAIR YR UNDEB YN TREDEGAR. GAN MR. JOSIAH THOMAS, LIYERPOOL. R ydym yn cyíarfod heddyw o dan amgylchiadau arbenig, oblegid yr "Arglwydd a gyfododd ac a drugarhaodd wrth Sion; canys yr amser i drugarhau wrthi, 'ie, yr amser nodedig a ddaeth. Oblegid y mae dy weision yn hoffì ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Y mae llawer calon sydd yma wedi bod yn disgwyl y bryderus am íiynyddoedd meithion am yr amser i'r Arglwydd drugarhau; onderbyn heddyw, yr amser nodedig a ddaeth. Y mae llawer c honom yn medru adgofio Ei ymweliad grasol â'n gwlad yn y flwyddyn 1S59, pryd y gwelid miloedd yn heidio i'w dŷ fel colomenod i'w ffenestri. Clyw- som ein tadau yn adrodd am Adfywiad 1S39, ac am ddigwyddiad- au cyffrous 1S49, pan yr oedd y geri marwol yn tramwyo y wlad, gan ddifa y preswylwyr âg anadl yr haint echryslawn, pryd y gwelid miloedd yn haner-gwallgof yn ceisio cysgod y cysegr mewn dychryn a braw. Cawsom y íraint o íod yn dystion o ymweliad grasol 1859, ac er nac^ oedd y dychweledigion yn agos mor luosog ag ydynt yn yr ymweliad diweddaf hwn, credwn fod effeithiau hwnw wedi bod yn nodedig o barhaol. Daethom igredu fod rhyw swyn gyfriniol yn y rhif 9; a mawr oedd y disgwyliadau am '69; ond pasiodd hono a '79 heb unrhyw ymweliad cyffredinol. Parhau i ddisgwyl y buom dros flynyddoedd '89 a '99. a'r hen bobl dduwiol yn trydar ac yn ochain, ac yn gofyn yn barhaus: "Gobaith Israel, a'i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pereria yn ytir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith? Paham y byddi fel cadarn heb allu achub?" Ond yr amser nodedig a ddaeth, a'r Arglwydd a drugarhaodd wrth Sion. Yr oeddym wedi bod yn ei ddisgwyl cyhyd nes yr oeddym bron wedi colli ein hadnabyddiaeth o hono pan ddaeth. Yr oedd mor brydferth ei wedd, a'r tecaf o feibion dynion. Purach ydosdd na'r eira; yr oedd yn wynach na'r