Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsaedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." GWYBODAETH A THEIMLAD. GAN Y PARCH. B. DAVIES, D.D., CASTELLNEWYDD EMLYN. |AE y deffroad presenol ar grefydd yn Nghymru, wedi cyffwrdd yn gryf a'r bywyd ysbrydol yn saint Duw. Ymgollant mewn mwynhad ysbrydol, bendithiant yr Arglwydd am eu dychwelyd o wlad y gelyn; tynant eu telynau oddiar yr helyg, ar y rhai y buont yn crogi am amser maith, a chanant ganiad newydd i'r Arglwydd. Buont yn hiraethu yn sanctaidd a gweddigar am yr adnewyddiad ysbrydol hwn. Y maent wedi profi yn helaeth gyfoeth addewidion Duw. "Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad, canys trodd fy nig oddiwrtho. Byddat fel gwlith i Israel, efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megys Libanus. Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a'i arogl fel Libanus. Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant; adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winydden: bydd eu cofTadwriaeth fel gwin Libanus." Pwy a all fesur gorfoledd y bobl sydd yn profi nerthoedd y byd a ddaw, a dylid bod yn ofalus rhag condemnio dulliau eu mynegiant o'r mwynhad ysbrydol a deimlant. Dibyna rhai fwy ar gynhyrfìadau cryfion acblysurol nag eraill, ymollyngant yn llwyr i'r dylanwadau sydd yn gweithioarnynt; ac os oes perygl iddynt, hwnwyw, bodyn ddiwyliadwriaeth am natur y dylanwadau a deimlant. Gall eu sel eu harwain ar gyfeiliorn, ac hyd yn nod eu canad at Grist fyned o dan lywodraeth teimladau heb fod yn bur. Ond y mae eraill yn yr eglwysi nad ydynt wedi eu cyfîwrdd mor drwm gan y deífroad presenol; dynion da, dynion sydd wedi bod yn golofnau o dan yr achos am flynyddoedd; dynion pur eu cymeriadau, aeddfed eu barn, eang eu gwybodaeth, a dwfn iawn eu cydymdeimlad âg hawliau crefydd ar eu hamser, eu talentau, a'u hamgylchiadau. Cysegrant eu hunain yn yr oll ag ydynt, ac yn yr oll a feddant i Grist. Y maent wedi bod yn llygaid i'r dall, yn glust i'r byddar, ac yn draed i'r cloff; chwiliant allan y cwyn ni wyddant, a gwydd- ant beth yw wylo mewn lleoedd dirgel am anwiredd yr eglwys a'r