Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsôedpdd "A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cyk. Newydd.—25. KHAGFYK, 1904. Hen CYF.-522. JEREMIAH—Y PROFFWYD WYLOFUS. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. |AE cymeriad Jeremiah yn fwy adnabyddus i ni na chy- meriad yr un arall o'r proffwydi sanctaidd, a hyny am fod ei lyfr, ynychwanegol at ei bregethau a'i gyîansodd- iadau barddonol, yn cynwys hefyd ei hunan-fywgraffiad, yn mha un y mae yn rhoddi i ni lawer o hanes ei fywyd, ac yn adrodd ei brofiad; ac y mae hyn yn gwneud ei lyfr yn un eithriadol o ddyddorol. Tra y mae y proffwydi eraill yn ymddangos ar achlysuron neillduol, ac fel comedau yn tynu sylw mawr ar bryd- iau, y mae Jeremíah megys yn byw yn ein golwg yn feunyddiol; ac yr ydym yn gweled yn amlwg ei fod "ynddyn yn gorfodgoddef fel ninau," nes yr ydym wrth edrych ar ei flinderau a'i drallodion yn barod i'w gyfarch, gan ddywedyd wrtho, "O! fy mrawd!" Mae Jeremiah wedí cael ei alw yn dra phriodol yn "seren hwyrol proffwydoliaeth yn Judah," am fod dydd bywyd gwladwriaethol y deyrnas ar derfynu, a'i haul yn ma'chludo yn nghanol cymylau duon ac ystormus, a nos ddu ei gorchíygiad a'i chaethgludiad arei goddiweddyd. Yr oedd Israel—teyrnas y deg llwyth—eisoeswedi ei gorchfygu, ei chaeth gludo, a'i dinystrio yn anadferadwy; ac yr oedd Judah—ei chwaer anflyddlawn—yn prysuro yn gyíìym i lawr y goriwaered ar ei hol i gaethiwed a dinystr; ac addas y dywed yr esboniwr enwog Dr. Godet, tod swydd Jerem'i'ah íel proftwyd, yn gyffeìyb i swydd bruddaidd caplan y carchar, yr hwn sydd yn darllen y gwasanaeth claddu i'r troseddwr condemniedig pan y byddo yn cael ei arwain o'i gell i'r dienyddle. Nid rhyíedd gan hyny fod gruddiau Jeremiah yn wlybion gan ddagrau wrthgyflawni ei weinidogaeth ddifrifddwys. Fe gafodd Jeremiah ei cni a'i fagu yn Anathoth—pentref perth- ynol i'r offeinaid yn ucheldir Judea, ryw ddwy neu dair milltir ì'r gogledd-ddwyrain o Jerusalem. Ofteiriad o'r enw Hiiciah oedd ei dad; ond nid oes sail ddigonol i gredu, fel y tybiodd rhai, mai yr un oedd hwn â Hilciah yr arch-offe:.riad, yr hwn a ddaeth o hyd i lyfr cyfraith yr Arglwydd yn ngwaelod cist o dan ryw adfeilion, ond odid, yn y deml pan oeddid yn ei hadgyweirio.1 Ymddengys 1 2 Chron. sxsiv. 14—22. I N