Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y opsaedpdd •'A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Y GORUWCHNATURIOL YN Y GWYRTHIAU. GAN Y PARCH. R. ROBERTS, MANCHESTER. jAE Natur a Datguddiad yn sicr o fod yn cytuno. Mae eu proffwydi, y Gwyddonydd a'r Duwinydd yn fynych yn anghytuno. Un rheswm am hyny yw, nad ydynt fel rheol yn gosod yr un ystyr i eiriau, a brawddegau arfer- edig. Heb gyd ddealltwriaeth yn hyn i ddechreu, nis gellir disgwyl iddynt allu cytuno yn eu rhesymiadau a'u casgliadau. Oad rhaid dweyd, os oes diffyg cydgordiad rhwng y Gwyddonydd a'r Duwin- ydd, nid ar y telynau y mae y bai, ond ar y telynorion. Mae rhai awdwyr digred wedi gwneud eu hymosodiadau ffyrnicaf ar y gwyrthiau, a hyny efallai am y tybid mai dyma un o amddiffyn- teydd cádarnaf ein crefydd, neu mai dyna y man gwanyn ei rhag- furiau. Teimìid rhagfarn eithafol yn erbyn y Goruwchnaturiol, ac ystyrid fod yn anhawdd, os nad yn anmhosibl, profì gwirionedd gwyrth wrth safon gwyddonol, fel yr hawlid fod raid gwneud, neu fethu gwneud o gwbl O'r tu arall, mae awdwyr uniongred wedi sefyll dros y gwyrthiau, a gwneud amddiffyniadau gyda medr gorchestol. Dywed un, cyn y gellir cael syniad cywir am wyrth. fod raid cymeryd yn ganiataoì fod Duw yn sefyll mewn perthynas nodedig â Natur—"Duw yn gweithio yn yr oll—Duw yn annibynol ar yr oll—Duw yn wahaniaethol o ldiwrth yr oll—Duw yn gwneud a fyno â'r oll—ac A'r oll vn gwbl ddibynol arno." Ac yn sicr, os addefir bodolaeth Duw o gwbl, nis geílir cydnabod llai. Defììniad un o wyrth yw—"Gweithrediad Dwytol arwyddocaol." Un arall: —"Digwyddiad yw gwyrth, yn amlygu bwriad, yn cymeryd lle yn y byd anianyddol, yr hwn nis gall Natur roi cyfrif am dano, ac y rhaid íod iddo achos ysbrydol a Goruwchnaturiol." Nid yw gwyrth a'r Goruwchnaturiol yn gytystyr. Un amlygiad o'r Goruwchnaturiol, mewn un agw^ddiad arno geir mewn gwyrth. Pe llwyddid i wneud i ffwrdd â'r gwyrthiau, ni fyddai hyny yn gwneud i ffwrdd â'r Goruwchnaturiol. Dywed rhai nad oes gymaint o bwys yn y gwyrthiau. Digon o ateb i hyn ydyw, fod Iesu Grist yn gosod pwys arnynt; er nad yw eíe wedi arter y gair gwyrth o gwbl. Mae tri o ymadroddion Ysgrythyrol am y gwyrth»