Skip to main content

y Dpsaedpdd •'A'r hwn y mae yr Annibynwr wedi ei Uno." Cvf. Newydd.—17. MAT, 1904. Hen Cîyf.-öIÖ. Y GORUWCH-NATURIOL MEWN CREFYDD. II. Y GORUWCH-NATURIOL YN YR YSGRYTHYRAU. GAN Y PARCH. OWEN THOMAS, M.A., LLUNDAIN. jETH a olygir wrth y Goruwchnaturiol yn yr Ysgryth- yrau ? Uealler i gychwyn nad yw y gair "goruwch- naturiol" yn yr Ysgrythyrau o gwbl. Nid yw o fewn cloriau y ddau Destament. Sonia'r Beibl am y naturiol a'r ysbrydol; ond nid oes awgrym ynddo am y goruwch-naturiol. Yr hyn a olygir yn gyffredin wrth y goruwch-naturiol yw—yr hyn sydd uwchlaw neu tuallan i gwrs naturiol pethau, y gwyrthiol, yr anghyffredin. Gwell genym. fodd bynag, lynu wrtli y gair ysbrydol, yr hyn yn y Beibl sydd yn ei wneud yn llyfr mor anghyffredin yn ei awdurdod a'i ddylanwad. Beth ydynt y gwahanol olygiadau sydd wedi ffynu yn yr eglwys o oes i oes o barthed i natur a helaethrwydd ysbrydoliaeth y Beibl ? Cofìer nad oes dim cwestiwn wedi bod drwy'r oesau o berthynas i'w ysbrydoliaeth. Edrychid ar y neb a wadai hyny yn waeth na'r diffydd. Nid oes amheuaeth nad oedd Iuddewon dyddiau y Gwaredwr yn coleddu y syniad mwyaf caeth ar y cwestiwn. Credent mewn ysbrydoliaeth eiriol. Yroedd llais y proffwydi wedi tewi, ac yr oedd Ysgrythyrau vr Hen Destament yn cael eu darllen a'u myfyrio yn hender y llythyren. Siaradai Philo Judaeus yn y ganrif gyntaf am ysbrydoliaeth fel math o ber- lewyg (ecstacy). Nid oedd y proffwyd yn siarad ei eiriau ei hun. Offeryn yn llaw Duw ydoedd. Duw oedd yn ei ysbrydoli ac yn siarad trwyddo. Ond yr oedd Iuddewon diweddaraf y cannf- oedd Cristionogol cyntaf yn íwy caeth na hyn. Yn eu tyb hwy yr oedd pob gair a llythyren yn w Beibl o ddwyfol amcaniad, ac nis gallasai fod yn amgen i'r hyn ydoedd heb fod yn gyfeiliornus. Credent fod y Beibl wedi ei ysbrydoli yn eiriol yn mhob " iod a thipyn," a'i fod yn hollol anffaeledig yn mhob adran, fod pob gair o'r Gyfraith o'r perffeithrwydd m^'yaf. Yn wir, aeth eu crediniaeth mor bell yn y cyfeiriad yma fel yr ystyrient y nodiadau ar y Gyfraith