Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD a'r hwn YR ÜNWYD "yr annibynwr." Hen Gyf.—814. RHAGFYR, 1889. Cyf. Newydd.—214. A DEADDODWYD YN NGLYN AG UEDDIAD Y PAECH. ELLIS JONES, YN NGHONWY. GAN Y PRIFATHRAW 0. C. WHITEHOUSE, M.A, CHESHUNT. " 0 Timothens, cadw yr hyn a roddwyd i'w efadw atat."—1 Tim. vi. 20. Yn fyr, dyma gnewyllyn cynghor yr Apostol i'w ddysgybl ieuanc, yr hwn ani gyfnod oedd wedíi bod eisoes yn cyflawni gwaifch y weinidogaefch. Y mae Ephesus, y man yr oedd Timofcheus yn llafurio yny ganrif gyntaf, yn ymddangos yn mhell o Gonwy, yn mha le yr ydychrchwi yn y 19 ganrif yn llafurio. Yr oedd marchnad lled bwysig yn cael ei chynal yn^Ephesus, yn ogystal a'i fod yn fan cyfarfyddiad dau ddylanwad diwylliadol—yr Ewrop- aidd a'r Dwyreiniol. Ephesus ydoedd uchelfa ffurf brydferth, ond yn awr nychlyd, ar oll-dduwiaefch, ac yr oedd bywyd y trigolion yn cael dylanwadu arno yn ddwfn gan deml Artemis a'r gwasanaeth rhwysgfawr a delid iddi; ac yr oedd masnach, cyfoeth, ac ardderchawgrwydd y dinaswyr yn dibynu ar y íluoedd Groegwyr a Dwyreinwyr oedd yn tyru i'r ddinas erbyn gwyliau y dduwies Artemis. Yr oedd Timofcheus ieuanc, haner Iuddew, haner Groeg- wr, yn cael ei ddwyn i gyffyrddiad â'r Groegwr cyflym ei amgyffrediaeth, buàn ei feddwl, ond hollol fydol, yn ogystal ac â'r Iuddew ariangar. Ar y naill law, yr oedd damcaniaethau oeddynt mewn effaith yn anwybyddu pob syniad am bechod ac iachawdwriaeth; ar y llall, yr oedd syniadau cymysg- edig o Iuddewiaeth ac athroniaeth yn nghylch Duw, y byd, angylion, a'r byd a ddaw. - Y mae y nodweddion hyn oeddynt yn nerthol ddylanwadu ar gymdeithas yn y ganrif gyntaf wedi diflanu bron yn llwyr. Y mae teml Diana wedi ei malurio~y mae ysgolion byd-enwog y cyfnod Groegaidd wedi eu cau; ond y mae dau beth heddywyn aros nad ydynt wedi eu symud gan chwyldroadau y meddwl dynol, na chan law drom amser; y mae y galon däynol yn aros, a'i phechod, a'i gwae; ei hofnau, a'i gobeithion; ac y mae y givirioneddau aogomddus hyny yn ddigryn yr oedd Paul a Timotheus yn credu mor gadarn ynddynt, ac y maent wedi bod yn ddystaw yn trawsffurfio cym- deifchas deunaw canrif. Y mae y Orisfc croeshoeliedig bregethwyd gan Paul heddyw yn fyw, ac y mae yr un Ysbryd Glan ag oedd yn nerthol weithredu ar yr eglwys gynt, eto heddyw yr un mor nerthol, ac fel cynt, felly heddyw, yr eglwys ydyio corff Crist. Ẅ mrawd, bydded i ni am foment sefyll yn nghyd, ac edrych o r safle ddymunol a manteisiol hon, ganfwrw golwgyn ol ar hyd y canrifoedd sydd wedi myned heibio gyda eu hymerodraethau a'u cyfundrefnau wedi eu 2 L