Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDTDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—813. TACHWEDD, 1889. Cíf. Newydd.—213. Wüímm ÛDrot^ ac %IhJg* Elanfaclî^ GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIYERPOOL. Dau cant a haner o flynyddoedd i'r mis hwn (Tachwedd) y corffolwyd Eglwys Annibynol Lìanfaches, i'r hon yr hawlir yr anrhydedd o fod yr Eglwys Ymneillduol hynaf yn Nghymru. Mae ei hanes felly yn rhedeg dros gyfnod maith; ac y mae ein gwlad yn yr ysbaid hwnw wedi myned trwy gyfnewidiadau mawrion. Mewn ystyr foesol, " tywyllwch a orchudd- iai y ddaear, a'r fagdda y bobloedd," pan y cychwynodd William Wroth allan, a phan y cyneuodd y lamp sydd wedi parhau i oleuo hyd y dydd hwn; er iddi fod ar rai adegau yn egwan, ac ar fin myned allan, ond gofalodd yr hwn na " ddiffydd lin yn rnygu," na chafodd y lamp ddiffodd yn nheml yr Arglwydd. Saif Llanfaches ychydig i'r aswy o'r brif-ffordd, ar hyd yr hon yr eir o Gasnewydd ar Wysg i Gasgwent, o fewn rhyw wyth milldir i'r lle blaenaf. Gan ei fod ar derfyn eithaf Cymru, a'r iaith Gymraeg, yn mhell cyn cof y genedlaeth bresenol, wedi llwyr ddiflanu yno, y mae y lle ynddy- eithr iawn i bawb yn ein gwlad, oddigerth mewn enw yn unig: ac oblegid hyny, dichon, ar yr adeg nodedig yma yn hanes yr eglwys, na byddai ychydig grybwyllion am y lle a'r amgylchoedd yn annerbyniol. Yr oedd yn fy mryd er's llawer o flynyddoedd i dalu YNWELIAD A LLANFACHES, ond eisieu amser cyfaddas oedd arnaf, a phan y tybiwn fod yr amser cyf- addas wedi d'od, deuai rhyw rwystr i'r ffordd, fel na chefais y cyfle hyd y flwyddyn hon. Yr oedd genyf hen addewid i fod yn Mynydd Seion, Cas- newydd, y Sabbath olaf yn mis Awst, a phenderfynais nad ymadawn o'u goror hwynt heb weled Llanfaches. Hysbysais fy mwriad i'r Parch. J. Griffith, a hysbysodd yntau y peth i gyfaill selog sydd yn swyddog yn ei eglwys, a'r hwn sydd yn ẃyr i'r hybarch Isaac Harries o'r Morfa; a bu lawen ganddo o'r bwriad, a dywedodd ar unwaith y gofalai am gerbyd i gymeryd Mr. Griffith a minau i fyny, ac y deuai ei hun gyda ni. Cychwyn- asom tua deg o'r gloch bpreu Llun, mewn ceibyd clyd a chysurus, ar ddi- wrnod nodedig o ddymunol, ac ar hyd ffordd dda, o ddau tu i'r hon yr oedd golygfeydd swynol. Yr oedd y cynhauaf, gan mwyaf, wedi ei gasglu; ac yr oeddyr aeron teg oedd yn byngau trymion ar gragau y coed yn y gerddi a'r perllanau, yn prysur addfedu. Ymddangosai pethau yn fwy gwledig a chyntefig fel yr elem yn mlaen, ac yr oedd y tir yr ochr aswy i'r ffbrdd yn uwch ac yn llai cynyrchiol, er nad ychwaith yn fynyddig. Gwyddai ein cerbydwr yn dda pa le yr oedd yr hen gapel, oblegid mynych y tramwyasai heibio iddo, a dyna y cwbl a wyddai am dano. Ar ben yr wythfed filldir 2 H