Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—812. HYDREF, 1S89. Cyf. Newydd.—212. ifcì) ac Mìtmyiüm g parcíf. ä^racs &u*fjtrçU, ®. $. GAN Y PARCH. THOMAS JOHNS, LLANELLI. Yu oedd Dr. Bushnell yn ei ddydd yn un o'r ser dysgleiriaf yn ffurfafen y byd crefyddol, ac er wedi machludo oddiar 187G, y inae gwawl y seren fawr hòno yn parhau i oleuo y nen, ac ymddengys y perj i wneud am oesau i ddyfod. Dyn anghyffredin ydoedd ar amryw ystyron—cawr yn mhlith cewri. Meddai ar alluoedd meddyliol anarferol o gryfion, prawf y cyfrolan lluosog a gyhoeddodd fod ei feddwl yn un tra chynyrchiol. Fel y mae ffynon fawr yn bwrw allan ffrydiau nerthol, gloywon, felly y bwrlymai ei feddwl galluog yntau feddylddrychau ffres i'r byd. Cawn fod ei ddir- nadaeth o wirioneddau crefyddol yn nodedig o dreiddgar, ac o natur athron- yddol. Ymaflai mewn athrawiaethau mawrion gydag esgud a nerth grymus- gawr, agwisgai hwy â rhyw newydd-deb hyfryd. Hyd yn nod pan draethai bethau cyffredin ymddangosent yn bethau newydd wedi eu rhoddi ganddo yn ei arddull neillduol ei hun. Er cymaint yw adnoddau yr iaith Seisonig, —ar yr hon yr oedd yn feistr; cwynai o herwydd ei thylodi i ddilladu ei feddyliau, a byddai o'r herwydd dan angenrhaid yn aml i fathu geiriau newyddion er gwneud ei hun yn ddealladwy. Yr oedd ei ddewrder i ddatgan ei olygiadau yn gyfartal i nerth a threiddgarwch ei ddirnadaeth. Athrylith ar ei phen ei hun oedd yr eiddo ef. Yr oedd ganddo hefyd galon fawr llawn brwdfrydedd. Dywedai y rhai a'i hadwaenai oreu fod ei galon o'r ddau yn fwy na'i ben. Lle y gwelai yn glir teimlai yn angerddol. Yr oedd ei gymeriad fel dyn a Christion yn dryloew, ail i'r grisial. Fel canlyn- iad enillodd ddylanwad eang, a gwnaeth argraff ddofn ar y byd crefyddol. Nid gormod dweyd iddo grëu cyfnod newydd yn llenyddiaeth yr areithfa, ac iddo droi meddyliau llawer allan o'r hen rigolau. Fel y rhan luosocaf a ddarllenodd ei weithiau, ac yn enwedig ei fywgraffiad, nis gallwn lai na bod yn edmygydd o hono, ond ni fynwn ein rhestru yn mhlith ei ddysgyblion hyny a dderbynient yr oll o'i ddysgeidiaeth. Darllen ei fywgraffiad amryw flynyddoedd yn ol bellach, barodd i mi deimlo awydd i ysgrifenu erthygl neu ddwy arno, felenghraifft nodedig o ddyn o sefyllfa gyffredin a gododd i fod yn dywysog yn mhlith meddylwyr. Ië, ddarllenydd, trwy frwydro âg anhawsderau gyfodent oddiar gyfyngder amgylchiadau y gorchfygodd Bushnell. Trwy wroldeb a phenderfyniad di-ildio torodd risiau yn nghraig rhwystrau, a dringodd i fyny i ben pinacl enwogrwydd. Gwiredda ei hanes y dywediad hwnw o eiddo Thomas Carlyle,—"Ysgol adfyd am fagu dynion teilwn^ o'r enw," o herwydd hyny, mewn bwthynod, ac nid mewn palasau y megir enwogion. Ychwanega yr athronydd o Chelsea, "Y mae y dyn ûwnw ^rdd weüi ymladd â thylodi â'i ddeg ewin, yn fwy galluog a medrns 2 E