Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SCOBPION. 343 yn y boreu; ond fel rheol y mae efrydu yn y boreu yn fwy manteisiol i iechyd. Credaf fod gwendid a llesgedd corfforol llawer gweinidog i'w briodoli i'w waith yn aros ar ei draed yn hwyr y nos a chysgu yn hwyr y boreu. Dyma fi wedi rhoddi braslun anmherffaith o fy null o wneud fy ngwaith. Diwydrwydd cyson, a threfn, a iawn, ddosbarthiad amser yw amodau cyflawniad gwaith effeithiol. Gwn nad wyf yn meddu ar unrhyw dalent uwchlaw y cyffredin o'm cydweinidogion. Ac os wyf wedi darllen, ysgrifenu, achystadlu mwy na llawer o honynt, y mae hyny i'w briodoli i ddiwyd- rwydd mwy cyson, i well dosbarthiad o fy amser, ac i awydd mwy anni- wallam wybodaeth. Os bydd i'r ychydig eiriau hyn symbylu rhyw frawd ieuanc o weinidog i benderfynu ymroddi i ddarllen a myfyrio yn fwy cyson, diwyd, a rheolaidd, er gwaethaf profedigaethau y newyddiadur, a diogi naturiol i bob dyn—gan gwbl gredu m*i efrydiaeth galed yw amod llwyddiant pob gweinidog sefydlog—atebant yr amcan oedd mewn golwg wrth eu hyggrifenu. GAN MR. W. R. CWEN, LIYERPOOL. Ychydig fisoedd yn ol, ymddangosodd yn y NineUenth Century, ysgrif ddyddoiol gan Dr. A. Conan Doyle, o dan y penawd "The Dìstribiäion of British Iniellect." Amcan yr ysgrif yw dangos pa ranau o'r Deyrnaa Gyf- unol sydd wedi cynyrchu y gwahanol enwogion Prydeinig sydd a'u henwau yn adnabyddus i'r byd, a'u coffadwriaeth wedi ei sicrhau hyd ddiwedd amser o fewn cloriau y cof-lyfr cenedlaethol a elwir "Men of the Time" Mae Dr. Doyle wedi cymeryd y pedair teyrnas, a nodi nifer yr enwogion a anwyd yn mhob un ar gyfartaledd i'r boblogaeth. Fel hyn, ceir fod Ysgotíand wedi cynyrchu un ar gyfer pob 22,000 o'r boblogaeth; Lloegr un ar gyfer 30,000; yr Iwerddon, un ar gyfer 49,000; a Chymru, un ar gyfer 58,000. Dengys fod Oymiu, nid yn unig yn ngwaelod y rhestr, ond yn resynus o dylawd o ddynion enwog. Tra y mae yn enwi nifer lluoso^ o gewri perthynol i'r tair teyrnas arall, nid oes ganddo ond pump gwerth eu henwi mewn cysylltiad â Chymru, a'r pump hyny ydynt—Lewis Morris, Proff. Boyd Dawkins, Syr Bartle Frere, Brinley Richaids, a Henry M. Stanley. Pob parch i'r boneddwyr dysgedig hyn, ond maddeued eu hedmygwyr a Dr. Canon Doyle i'r rhai a wyddant rywbeth am Gymru, os teimlwn betrusder gostyngedig i'w cydnabod fel cynrychiolwyT o gynyrch meddyliol y dywysogaeth yn yr oes bresenol. Pe y gofynid i bob Cymro o Gaergybi i Gaerdydd enwi pump o enwogion Cymreig yr oes, mae yn debyg y cawsid rhestr dâyddorol a digrif, yn amrywio yn ol golygiadau duwinyddol a gwladwriaethol pob un, ond y mae yn sicr na chawsid y pump uchod gan un o honynt, ac amheown a gynwysai yr holl restrau gyda'u gilydd fwy na dau allan o'r pump; a hyny am fod trigolion y wlad yn meddu gwybodaeth am dani, sydd yn eu galluogi i ffurfio barn gywir yn nghylch yr hyn a berthyn iddi, tra o angenrheidrwydd nas gall y neb a fyddo yn amddjfad o'r cyfryw wybodaeth fod yn gymhwys i fesur ei hadnoddau, nac i ddarlunio ei chymeriad. Mae y naiil yn deall ei bwnc, tra y traetha y Uall ynfydrwydd, am ei fod yn y tywyllwch. Nid yw