Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr tjnwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—810. AWST, 1S89. Cyf. Newydd.—210. " €mmattuel."* GAN Y FARCH. JAMES CHARLES, CROESOSWALLT. Buom yn petruso cryn lawer yn nghyleh testnn i ddweyd ychydig arno ar yr achlysur presenol; methem a phenderfynu pa un ai rhyw fater athraw- iaethol neu ymarferol i gymeryd dan sylw. O'r diwedd cododd y cwestiwn i fyny, Paham na allasem gysylltu y ddau â'u gilydd yn ol arddull y Beibl, yr arddull y rhoddwyd y gwirionedd ar y dechreu? Dynia y rheswm i ni ddewis y gair gogoneddus, " Emmanuel, Duw gyda ni," fel sylfaen i draethu ychydig o bethau. Byddai meddwl traethu yn llawn ar y pwnc, a gwneud dim fcebyg i gyfiawnder âg ef, allan o'r cwestiwn, pe ysgrifenid llyfr arno, ond amcanwn ddweyd ychydig bethau, a thaflu allan ychydig o awgrymiad- au a allant fod o les. Credwn fod hanes yr eglwys o'r dechreuad yn profi fod colli golwg ar y Duw-ddyn, a methu sylweddoli y gwirionedd am ym- gnawdoliad Mab Duw, yn wastad yn achos o ddirywiad mewn athrawiaeth neu fywyd, neu bob un o'r ddau. Ac, o'r ochr arall, credwn fod deall y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu yn ddiogelwch mewn athrawiaeth ac ym- arferiad. Awdwr crefydd yw Crist, a Christionogaeth yw y grefydd wreidd- iol a gwirioneddol. Nid dadblygiad o Iuddewiaeth ydyw, ac nid dyfod fel prophwyd i ddiwygio, neu i wella y grefydd hòno wnaeth Iesu, ond i syl- faenu Cristionogaeth yn y byd, yr unig wir grefydd. Ar yr addewid fawr am Grist yr oedd Iuddewiaeth yn sylfaenedig; felly, pwysai ar Gristionog- aeth, a gwasanaethai i barotoi meddwl y byd i dderbyn Crist. Undeb Duw â dyn. Mae y byd wedi bod yn dymuno, ac yn dysgwyl am ryw fath o undeb rhwng Duw a dyn, ond yn cyfeiliorni yn hyn fel yn mhob peth arall. Dywed Dr. Dornerf fod gan y Paganiaid ddwy ffordd o geisio deall y gwirionedd.hwn. Yn yr India a'r Dwyrain yn gyffredinol, yr oedd syniad am ryw fath o ymgnawdoliad, neu y duwiau yn dyfod at ddyn. Dywedir yn Mythology yr India fod Crishna yn nawfed ymgnawd- oliad o Vishnu, ac nid oedd y nawfed i fod yn barhaus, ond am dymhor, ac yna yn ymddyosg drachefn o'r natur ddynol. Gwelir y gwahaniaeth rhwng hyn ag ymgnawdoliad Crist, yr hwn sydd yn barhaus a thragwyddol. Hefyd, ffug oedd ymgnawdoliad Vishnu, ni chymerodd hyny erioed le; nid oedd y peth yn ddim ond chwedl, ond y mae ymgnawdoliad Mab Duw yn ffaitb. Dywed yr un awdwr fod y Paganiaid yn y Gorllewin, megys yn Groeg, yn dechreu gyda'r dyn,—dynion yn dringo i fynydd Olympus, ac yn dyfod megys duwiau, neu yn dduwiau. Mae ymgais dynion i gael allan Dduw, ac i geisio dringo i fyny at Dduw yn ffaith. A chan nad yw y dull cynfcaf * Traddodwyd yr Anerchiad hwn o Gadair Cymanfa Annibynwyr Maldwyn. t History of the development of the doctrine of the Person of Christ, by J. A. Dorner, D.D.